Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (31)
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2007
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
...................................................
1.02pm
Eitem 2: Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
...................................................
1.43pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Arennol a Thrawsblannu
...................................................
2.15pm
Eitem 4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3718 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod angen strategaeth arbennig i wireddu potensial trefi glan môr Cymru yn llawn, ac yn benodol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud y canlynol:
1. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyllid cyhoeddus a Mentrau Cyllid Preifat i wella amwynderau cyhoeddus megis parciau, cyfleusterau hamdden, pierau a seilwaith trafnidiaeth mewn trefi glan môr;
2. Hyrwyddo trefi glan môr fel canolfannau ar gyfer digwyddiadau artistig ac ar gyfer arddangos celf o gasgliadau cyhoeddus;
3. Helpu i wella canolfannau croeso;
4. Hybu twf y sector busnesau bach a chanolig mewn trefi glan môr, yn enwedig y rheini sydd wedi’u hanelu at farchnadoedd twristaidd megis crefftau, bwyd a diod o’r safon orau, ac anrhegion; a
5. Marchnata pa mor ddeniadol yw trefi glan môr fel cyrchfannau i dwristiaid a lleoliadau ar gyfer buddsoddiad economaidd.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol" a rhoi yn ei le:
"1. Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus mewn adfywio sy’n digwydd ledled Cymru, gan gynnwys mewn trefi glan môr;
2. Yn cefnogi’r ymrwymiad yng nghytundeb Cymru’n Un i fentrau integredig a thrawsbynciol sy’n anelu at sicrhau datblygu economaidd ac adfywio; ac
3. Yn credu bod hyn yn creu sail ar gyfer datblygu dull cynhwysfawr o adfywio trefi glan môr Cymru.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3718 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol
1. Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus mewn adfywio sy’n digwydd ledled Cymru, gan gynnwys mewn trefi glan môr;
2. Yn cefnogi’r ymrwymiad yng nghytundeb Cymru’n Un i fentrau integredig a thrawsbynciol sy’n anelu at sicrhau datblygu economaidd ac adfywio; ac
3. Yn credu bod hyn yn creu sail ar gyfer datblygu dull cynhwysfawr o adfywio trefi glan môr Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
12 |
2 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
...................................................
3.13pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3719 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn fargen annheg i wasanaethau lleol.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
"1) Yn methu â chydnabod y galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol i oedolion;
2) Yn debygol o arwain at gynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor;
3) Yn gwaethygu’r annhegwch cyffredinol yn system y dreth gyngor.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
7 |
0 |
41 |
48 |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
2 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig.
...................................................
4.03pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM3720 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailagor Cronfa Datblygu Swyddfeydd Post fesul rhanbarth, cyn gynted ag y cytunir ar bob cynllun ardal rhanbarthol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru" a rhoi yn ei le:
"Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ailsefydlu a newid ffocws y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post.”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddechrau trafodaethau gyda Grwp y Post Brenhinol dros rôl y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post er mwyn cefnogi’r Rhwydwaith Gymdeithasol o Swyddfeydd Post ledled Cymru cyn i’r cynigion ar gyfer eu cau gael eu ffurfioli.”
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd i sicrhau bod postfeistri yn gwybod am y gronfa a sut i gael gafael arni.”
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:
a) sicrhau ei bod yn defnyddio’r rhwydwaith o Swyddfeydd Post ar gyfer busnes Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol;
b) annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r rhwydwaith ar gyfer darparu busnes y Llywodraeth; a
c) chynorthwyo undebau credyd sy’n cydweithio â’r rhwydwaith o Swyddfeydd Post.”
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3720 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ailsefydlu a newid ffocws y Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
42 |
6 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
...................................................
4.56pm
Gohiriwyd y cyfarfod.
5.01pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull i bleidleisio ar y cynigion a’r gwelliannau.
...................................................
5.05pm
Eitem 7: Dadl fer
NDM3717 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
Cymru gyda’r Gorau yn y Byd o ran Byw Cynaliadwy
...................................................