Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (148)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Medi 2009
Amser:
13.30
Safodd y Cynulliad am funud o dawelwch i gofio am y rheini a gafodd eu lladd mewn ardaloedd o wrthdaro..
…………………………..
13.31
Eitem
1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
…………………………..
14.36
Eitem
2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
…………………………..
14.55
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: yr Amgylchedd Hanesyddol
…………………………..
15.42
Eitem
4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am ffliw moch
…………………………..
16.10
Eitem
5: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio: Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol
…………………………..
16.27
Eitem
6: Dadl ar y Strategaeth Swyddi Gwyrdd
NDM4273 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
gresynu nad yw’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd yn llwyddo i gyflwyno cynllun i ddefnyddio a datblygu technolegau newydd, technolegau sy’n datblygu na diwydiannau gwyrdd newydd yng Nghymru
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
1 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw’r strategaeth hon yn ystyried hanfodion busnes Busnesau Bach a
Chanolig nac ychwaith yn hyrwyddo’r agenda cynaliadwyedd mewn modd gwirioneddol arloesol a radical
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4273 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
croesawu’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
9 |
5 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
.........................................