Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (91)
Dyddiad: Dydd Mercher, 22 Hydref 2008
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Gofynnwyd y cwestiwn.
………………………………
1.31pm
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
………………………………
2.09pm
Eitem
3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai. Tynnwyd cwestiynau 3 a 12 yn ôl ac ni ofynnwyd cwestiynau 9, 10 ac 11.
………………………………
2.43pm
Eitem
4: Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2009/10
NDM4039 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2009-10, fel y nodir yn nhabl 1 y "Cynigion ar gyfer Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009-10”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Hydref 2008; ac y caiff ei chynnwys yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 27.17(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………………
2.55pm
Eitem
5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4040 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) yr argyfwng bancio dwys a sylfaenol sydd wedi taro economïau’r gorllewin;
b) Y perygl y bydd economïau’r gorllewin yn mynd i gyfnod o ddirwasgiad economaidd;
c) Y bydd yr argyfwng bancio a’i ganlyniadau economaidd tebygol yn effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru;
d) Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod blaenoriaethau ei chyllideb a’i hamcanion polisi pan yr oedd amgylchiadau economaidd yn fwy hynaws nag ydynt heddiw.
2. Yn credu:
a) Adeg argyfwng cenedlaethol bod gan bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad ddyletswydd i gydweithio pan fydd hynny'n bosibl i amddiffyn a hyrwyddo lles pobl Cymru;
b) Er bod nifer o lifrau economaidd yn aros ar lefel y wladwriaeth, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd addasu ei gwariant, ei blaenoriaethau a’i pholisïau ei hun i ymateb i’r sefyllfa economaidd sy’n gwaethygu;
c)
Bod yr angen am wariant cyhoeddus effeithlon a chraffu effeithiol yn cael ei ailddyblu ar adeg o bwysau economaidd;
d) Y dylai’r Prif Weinidog gynnull cyfarfod o arweinwyr y Pleidiau i gytuno lle ceir consensws ar gyfer gweithio'n
hollbleidiol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
1. Ym mhwynt 1(d) dileu popeth ar ôl "hamcanion
polisi”
a rhoi yn ei le "o fewn Setliad Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr dros 3 blynedd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
2. Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le bwynt 2 newydd
"Yn
credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau y defnyddir pob lifer posibl o fewn ei rheolaeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa economaidd sy’n datblygu, a:
a)
yn cymeradwyo cynnull Uwchgynhadledd Economaidd gyffredinol a fydd o gymorth â’r ymdrech hwn;
b)
yn croesawu menter Llywodraeth y Cynulliad i friffio holl lefarwyr y gwrthbleidiau ynghylch y sefyllfa gyfredol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
5 |
9 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i gytuno, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) - Cafodd y gwelliant ei ddad-ddethol.
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 2d):
", gyda golwg ar liniaru’r beichiau ariannol sy’n wynebu teuluoedd ledled Cymru;”
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4040 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) yr argyfwng bancio dwys a sylfaenol sydd wedi taro economïau’r gorllewin;
b) Y perygl y bydd economïau’r gorllewin yn mynd i gyfnod o ddirwasgiad economaidd;
c) Y bydd yr argyfwng bancio a’i ganlyniadau economaidd tebygol yn effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru;
d) Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod blaenoriaethau ei chyllideb a’i hamcanion polisi o fewn Setliad Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr dros 3 blynedd.
2. Yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau y defnyddir pob lifer posibl o fewn ei rheolaeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa economaidd sy’n datblygu, a:
a) yn cymeradwyo cynnull Uwchgynhadledd Economaidd gyffredinol a fydd o gymorth â’r ymdrech hwn;
b) yn croesawu menter Llywodraeth y Cynulliad i friffio holl lefarwyr y gwrthbleidiau ynghylch y sefyllfa gyfredol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
4.38pm
Eitem
6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4042 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd rhaglenni hyfforddi athrawon o ansawdd uchel ar gyfer recriwtio a chadw gweithlu proffesiynol llawn cymhelliant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) sicrhau bod athrawon yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin yn eu gwaith;
b) rhoi sylw i’r argyfwng posibl o ran cadw penaethiaid;
c) sicrhau bod rhaglenni hyfforddi athrawon yng Nghymru o’r ansawdd gorau;
d) creu cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a datblygu eu gyrfa mewn amgylchedd addysgu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 2 ychwanegu "barhau i”
ar ôl "Lywodraeth Cynulliad Cymru i”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2b a rhoi yn ei le:
"cefnogi datblygiad proffesiynol Penaethiaid a chamau i’w cadw”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
"adolygu’r arfer o ysgolion yn dileu uwch swyddi rheoli oherwydd pwysau cyllidebol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
"rhoi sylw i’r prinder cyllid wrth weithredu cam olaf y Cytundeb Cenedlaethol
ar Lwyth Gwaith Athrawon ar gyfer mis Medi 2009.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
"sicrhau bod athrawon wedi cael eu hyfforddi’n briodol i adnabod anghenion addysgol
arbennig posibl.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu wrth arafwch Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth weithredu argymhellion yr Adolygiad
Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4042 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd rhaglenni hyfforddi athrawon o ansawdd uchel ar gyfer recriwtio a chadw gweithlu proffesiynol llawn cymhelliant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i:
a) sicrhau bod athrawon yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin yn eu gwaith;
b) cefnogi datblygiad proffesiynol Penaethiaid a chamau i’w cadw;
c) sicrhau bod rhaglenni hyfforddi athrawon yng Nghymru o’r ansawdd gorau;
d) creu cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a datblygu eu gyrfa mewn amgylchedd addysgu.
e) sicrhau bod athrawon wedi cael eu hyfforddi’n briodol i adnabod anghenion addysgol arbennig posibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
32 |
8 |
7 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………
5.29pm
Cyfnod
Pleidleisio
………………………………
5.33pm
Eitem
7: Dadl fer
NDM4041 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Cymru Wledig a Threfol: Cysylltu ein cymunedau.
………………………………