25/05/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (2)

Dyddiad: Dydd Gwener, 25 Mai 2007
Amser: 1.05pm

1.05pm
Enwebu Prif Weinidog Cymru

Yn unol â Rheol Sefydlog 36.4, cytunodd y Cynulliad i ganiatáu enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 4.2, gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog Cymru. Enwebwyd Rhodri Morgan gan Jane Hutt. Gan nad oedd enwebiad arall, bu i'r Llywydd ddatgan mai Rhodri Morgan fyddai'r enwebai. Yn unol ag Adran 47 (4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, llofnododd y Llywydd lythyr at Ei Mawrhydi Y Frenhines yn argymell penodi Rhodri Morgan yn Brif Weinidog Cymru.

...........................................

1.10pm
Gwhaoddwyd Rhodri Morgan i annerch y Cynulliad.

.......................................

Daeth y cyfarfod i ben am 1.31pm

The date and time of the next meeting will be set by the Presiding Officer Chamber Secretariat