Aelodau prosthetig - Enwebwyd ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd 29/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/08/2022   |   Amser darllen munudau

Deiseb i sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yn GIG Lloegr a GIG yr Alban.

“Rydym yn galw … i sicrhau bod cyllid ar gael i alluogi pobl o Gymru sydd wedi colli rhan o’u corff i gael technoleg brosthetig sydd o leiaf cystal â'r hyn sydd ar gael yng ngwasanaethau iechyd gwladol Lloegr a'r Alban.” - David Bradley, Deisebydd.

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Nid yw Cymru yn cynnig yr un cymorth â gwledydd eraill y DU i'r rhai sydd wedi colli aelod.
  • Lefel y dechnoleg prosthetig sydd ar gael i gleifion yn Lloegr a’r Alban.

Beth ddigwyddodd?

  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £700,000 o gyllid i ddarparu pengliniau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd arbenigol i gleifion yng Nghymru.
  • Mae’r ddarpariaeth yng Nghymru bellach yn unol â gwledydd eraill y DU.

 


 

Yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022

 

Amddiffyn gwiwerod coch

Cymorth mewn profedigaeth

Dadl Sgrinio Serfigol

Incwm Sylfaenol Cyffredinol