Dadl sgrinio serfigol - Enwebwyd ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd 29/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r ddeiseb yn galw am i sgrinio serfigol ddychwelyd i bob tair blynedd, yn dilyn cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru i newid y cyfnod sgrinio o bob tair blynedd i bob pum mlynedd.

“Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a mynegwyd dicter, tristwch a phryderon difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru yn dilyn y datganiad.” Deisebydd 

 

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn: 

  • y ddadl ynghylch iechyd menywod 
  • pa mor bwysig yw amlygu pam mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, yn enwedig y rhai ynghylch iechyd. 

Beth ddigwyddodd? 

  • Cafodd y ddeiseb ei thrafod yn Siambr y Senedd ar 19 Ionawr 2022 – yn dilyn ton ddigynsail o gefnogaeth i’r ddeiseb (30,133 llofnod)
  • Roedd y ddeiseb yn llwyfan ar gyfer cynnal sgwrs genedlaethol am y pryderon a godwyd gan fenywod. 
  • Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro am ei gamgymeriadau wrth gyfathrebu – rhoddodd y ddadl, a’r sylw a gafwyd yn y cyfryngau, lwyfan ag iddo broffil uchel i’r negeseuon bod y newidiadau wedi’u cymeradwyo gan weithwyr iechyd proffesiynol yn dilyn profion gwell i adnabod y rheini sydd â risg uwch.  

 


 

Yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022

 

Amddiffyn gwiwerod coch

Cymorth mewn profedigaeth

Aelodau prosthetig

Incwm Sylfaenol Cyffredinol