Deiseb i Lywodraeth Cymru ehangu'r cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.
Beth ddigwyddodd?
- Casglodd y ddeiseb dros 1,000 o lofnodion.
- Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r 5 o argymhellion y gwnaeth y Pwyllgor Deisebau yn ei adroddiad, gyda dau ohonynt wedi’u derbyn mewn egwyddor.
- Tynnodd y ddeiseb sylw at gynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a heriodd y Llywodraeth i ddatblygu treial ehangach, mwy gwerthfawr.
Yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022
Bwrw eich pleidlais
Pa ddeiseb, yn eich barn chi, sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl Cymru?
Rydych wedi clywed am y pum deiseb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022 a’r modd y gwnaethant ddefnyddio eu llais i wneud newid parhaol. Ewch ati’n awr i fwrw eich pleidlais ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022.
Mae'r bleidlais yn cau ar 29 Awst, gyda'ch dewis yn cael ei ddatgelu ar 5 Medi 2022.
chevron_right