CALRE

Cyhoeddwyd 17/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/08/2020   |   Amser darllen munudau

Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop – CALRE

Cefndir

Sefydlwyd CALRE yn Oviedo, Sbaen 1997. Mae’n dod â ‘chadeiryddion’ seneddau gwladwriaethau ffederal deddfwriaethol Ewrop ynghyd - hy arweinyddion seneddol seneddau neu gynulliadau is-genedlaethol, yn hytrach na seneddau cenedlaethol Aelod Wladwriaethau. Dim ond rhanbarthau sy’n rhan o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd all fod yn rhan o CALRE, ac mae’r graddau y maent wedi gwneud hynny’n amrywio’n sylweddol yn ôl statws y rhanbarthau ym mhob gwladwriaeth.

Ar hyn o bryd, mae CALRE yn cynnwys 74 o ranbarthau o wyth Aelod

Wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynrychioli mwy na 200 miliwn o bobl:

  • Seneddau cymunedau ymreolaethol Sbaen
  • Cynghorau rhanbarthol yr Eidal
  • Cynulliadau rhanbarthau a chymunedau Gwlad Belg
  • Senedd ymreolaethol Aland (Y Ffindir)
  • Cynulliadau rhanbarthol Azores a Madeira (Portiwgal)
  • Sefydliadau datganoledig yr Alban, Cymru a gogledd Iwerddon (y Deyrnas Unedig)