Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i atebolrwydd ac arfer gorau, mae Comisiwn y Senedd yn penodi cynghorwyr annibynnol. Cânt eu penodi am dymhorau sefydlog yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored, ac ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth mewn busnes, diwydiant a sectorau eraill a gaiff eu hystyried.
Maent yn unigolion sydd â chyfoeth o brofiad o fyrddau, llywodraeth a’r sector cyhoeddus, ar y lefelau uchaf, i helpu’r Senedd i gyrraedd ei safonau uchel ei hun o lywodraethu da a defnydd effeithiol o arian cyhoeddus.
Rôl Cynghorwyr Annibynnol
Mae’r Cynghorwyr Annibynnol yn helpu i sicrhau bod Comisiynwyr ac uwch dîm rheoli’r Comisiwn yn cael eu cynorthwyo a’u herio mewn modd adeiladol wrth eu gwaith. Maent yn cyfrannu at nifer o’n gweithgareddau a gwasanaethau, gan ddod â safbwynt allanol ac annibyniaeth gyda hwy o’n strwythur rheoli.
Rydym yn defnyddio arbenigedd y cynghorwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys ystyried ein trefniadau rheoli perfformiad ac adrodd a chadw golwg feirniadol ar ddulliau rheoli ariannol a gweithdrefnau rheoli risg y Comisiwn fel aelodau o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Senedd.
Mae rhai hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor Taliadau, sy’n cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr ynghylch dull strategol y Comisiwn o ran ymgysylltu a datblygu’r gweithlu ac yn rhoi sicrwydd mewn perthynas â thâl y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr.