Sut mae'r Comisiwn yn cefnogi'r Senedd?

Mae'r rolau'n cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:

  • Rhoi'r llety, y cyfleusterau, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen ar Aelodau i wneud eu gwaith;
  • Cefnogi Pwyllgorau'r Senedd a'r Cyfarfod Llawn trwy ddarparu cyngor gweithdrefnol, cyfreithiol a chyngor arall;
  • Darparu gwasanaethau cyfieithu, dehongli ac adrodd sy'n sicrhau bod y Senedd yn gallu gweithredu yn Saesneg a Chymraeg;
  • Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i'r cyhoedd; a
  • Rhoi gwybodaeth ac addysg i'r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â'r Senedd ac oddi yno.

 

Nid yw staff y Senedd yn weision sifil. Maent yn annibynnol ar y Llywodraeth ac yn gweithredu'n ddiduedd ar ran y Senedd.

Unigolyn ar alwad fideo ar liniadur gyda sawl person

Pa fath o rolau ydych chi'n recriwtio ar eu cyfer?

  • Gweinyddu  
  • Gwasanaethau Clercio  
  • Datblygu Polisïau Corfforaethol
  • Cyfathrebu
  • Gwybodaeth ac Addysg
  • Rheoli Digwyddiadau
  • Rheoli Cyfleusterau   
  • Gwasanaethau  Ariannol  
  • Cyfieithu Cymraeg/Saesneg
  • Adnoddau Dynol
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Cyfreithiol
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac Addysg
  • Ymchwil  
  • Diogelwch

Ein hieithoedd swyddogol (Cymraeg a Saesneg)

Rydym wedi ymrwymo'n llawn i wella ein gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn barhaus ac i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog lle y gall Aelodau'r Senedd, y cyhoedd a'r staff ddewis gweithio neu gyfathrebu'n naturiol drwy ddefnyddio'r naill iaith swyddogol neu'r llall, neu'r ddwy iaith, a lle caiff y defnydd o'r ddwy iaith ei annog a'i hwyluso yn rhagweithiol.

Er nad ydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o'n staff fod yn rhugl yn ein dwy iaith swyddogol, rydym yn disgwyl iddynt oll ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn ein hieithoedd swyddogol. I'r graddau hynny, rydym yn disgwyl i bob aelod o staff sy'n cael ei benodi gan y Senedd fod â sgiliau lefel cwrteisi yn y Gymraeg, neu i gaffael y sgiliau hyn yn ystod cyfnod y cytunwyd arno. Caiff pob swydd ei hasesu yng nghyd-destun gallu'r maes gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i'n cwsmeriaid ac mae rhai swyddi, felly, yn gofyn am lefel uwch o Gymraeg i hwyluso hynny, a nodir gofynion o'r fath, ym manyleb y swydd.

Am ragor o wybodaeth am y lefelau gallu o ran y Gymraeg, ewch i'n tudalennau Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

People in the Senedd