Cydnabyddiaeth a gwobrau allanol

Cyhoeddwyd 01/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi ein bod yn dathlu llwyddiannau ein cyflogeion a’u timau. Mae pob un o’r llwyddiannau hyn wedi’u seilio ar ymdrechion ac amser gwerthfawr ein cyflogeion. Mae’n hanfodol bod cyfraniadau ein cyflogeion a’u timau yn cael eu gwerthfawrogi.
Rydym yn falch o gefnogi Comisiwn y Senedd, gan wybod bod ein harbenigedd yn helpu i gynorthwyo Aelodau o’r Senedd yn eu rôl hollbwysig o gynrychioli pobl Cymru.

Dyma rai o’r gwobrau y mae Comisiwn y Senedd wedi’u hennill fel cyflogwr, yn ogystal â rhai o’r mentrau rydym yn eu cefnogi:

Rydym yn aelod o Rwydwaith Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac rydym wedi ein henwi ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall fel un o gyflogwyr gorau'r DU ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) bob blwyddyn ers 2009. Rydym wedi cyrraedd y brig yng Nghymru nifer o flynyddoedd yn olynol ac wedi ein cynnwys droeon yn 10 Uchaf sefydliadau'r DU hefyd, a chawsom y wobr ar gyfer sefydliad mwyaf cynhwysol LHDT y DU yn 2018. Rydym wedi ein henwi yn un o'r cyflogwyr gorau ar gyfer pobl trans ac mae ein rhwydwaith staff LHDT wedi'i gydnabod fel y gorau yng Nghymru yn y gorffennol. Rydym hefyd wedi'n henwi gan Stonewall fel sefydliad sy'n perfformio'n Rhagorol oherwydd ein cysondeb wrth gyrraedd brig y Mynegai.

Rydym wedi sicrhau marc siarter Yn Uwch na Geiriau Action on Hearing Lossam gefnogi staff ac ymwelwyr sy'n fyddar neu sy'n drwm eu clyw. Rydym hefyd wedi cael gwobrau Rhagoriaeth Cymru gan Action on Hearing Loss Cymru fel sefydliad enghreifftiol.

Rydym wedi cael ein cydnabod fel un o 50 o Gyflogwyr Gorau The Times / Opportunity Now ar gyfer menywod.

Mae gennym hefyd Statws Hyrwyddwr Cyflogwr Oedran a chawsom ein cydnabod fel cyflogwr Anabledd Hyderus gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n ystyriol o deuluoedd, a chawsom ein rhestru'n un o'r Deg Cyflogwr Gorau yn y DU, sydd wedi'i achredu gan y sefydliad Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio (TEWF), sef meincnod arfer da a gaiff ei gydnabod gan ddiwydiant yng nghyswllt darparu amgylchedd gwaith sy'n galluogi pobl i gael cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

 

Rydym wedi cael cydnabyddiaeth Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl o'r marc rhyngwladol rhagoriaeth fyd-eang.

 

Rydym wedi cael Gwobr Mynediad y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod ein hadeiladau'n hygyrch i ymwelwyr ag awtistiaeth a bod ein staff wedi cael eu hyfforddi i'w croesawu.