Gwyliau blynyddol

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Fel aelod staff parhaol ac amser llawn bydd gennych 31 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn ac 11 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint bob blwyddyn (os nad ydych yn gweithio oriau safonol byddwch yn cael hawl pro rata sy'n gymesur â'ch patrwm gwaith). Rydym hefyd yn caniatáu i chi werthu hyd at bedwar diwrnod o wyliau â thâl yn ôl bob blwyddyn.