A allaf gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol fel cyflogai?

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Er mwyn i chi wasanaethu pob aelod etholedig yn gydradd, mae’n hanfodol bod y Senedd a’r cyhoedd yn hyderus nad yw eich barn bersonol yn effeithio ar y modd yr ydych yn cyflawni eich dyletswyddau swyddogol. 

Amcan y rheolau yw caniatáu cymaint ag sy’n bosibl o ryddid i chi gymryd rhan mewn materion cyhoeddus heb dorri’r egwyddor sylfaenol hon.

Y rheolau cyffredinol ynghylch gweithgarwch gwleidyddol:

  • rhaid i chi beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol pan fyddwch ar ddyletswydd, yn gwisgo gwisg swyddogol neu pan fyddwch yn adeiladau’r Comisiwn;
  • rhaid i chi beidio â mynd i gynadleddau allanol neu ddigwyddiadau a drefnwyd gan sefydliad sy’n perthyn i blaid wleidyddol neu a gafodd nawdd ganddo, yn eich rôl swyddogol;
  • rhaid cymryd gofal i osgoi unrhyw embaras i'r Senedd drwy eich bod chi’n dwyn eich hun yn amlwg i sylw’r cyhoedd mewn dadl wleidyddol plaid fel aelod o staff y Senedd;
  • rhaid i chi sicrhau eich bod yn mynegi eich barn wleidyddol bersonol mewn modd cymhedrol fel nad yw’r rhwystro, neu’n ymddangos fel pe bai’n rhwystro, gwasanaeth teyrngar ac effeithiol i aelodau o bleidiau eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, neu os hoffech gael copi llawn o’r Cod Ymddygiad, cysylltwch â'r tîm recriwtio drwy anfon neges at swyddi@senedd.cymru.