Pan fyddwch yn llenwi eich cais, gofynnir i chi a oes gennych hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich penodi, bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Fetio Diogelwch Cenedlaethol, felly fel rhan o’r broses ymgeisio gofynnir i chi a ydych wedi bod yn breswylydd yn y DU am o leiaf tair blynedd.
Er nad yw diffyg preswyliaeth yn y DU o reidrwydd yn rhwystro cliriad diogelwch, rhaid i’r gwiriadau allu creu canlyniadau priodol i lywio’r broses benderfynu a darparu’r lefel ofynnol o sicrwydd.