A oes angen i mi fodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd penodol i wneud cais?

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/09/2021   |   Amser darllen munudau

Pan fyddwch yn llenwi eich cais, gofynnir i chi a oes gennych hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich penodi, bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Fetio Diogelwch Cenedlaethol, felly fel rhan o’r broses ymgeisio gofynnir i chi a ydych wedi bod yn breswylydd yn y DU am o leiaf tair blynedd.

Er nad yw diffyg preswyliaeth yn y DU o reidrwydd yn rhwystro cliriad diogelwch, rhaid i’r gwiriadau allu creu canlyniadau priodol i lywio’r broses benderfynu a darparu’r lefel ofynnol o sicrwydd.