Sut bydd y panel yn dewis ymgeiswyr i’w cyfweld?

Cyhoeddwyd 01/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y panel recriwtio yn sgorio'r dystiolaeth a roddir gennych yn eich cais yn ôl pob un o’r meini prawf yn y swydd ddisgrifiad.

Mae’r Senedd yn yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd  ac mae'n croesawu ceisiadau gan bobl anabl. Mae'r cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl os ydynt yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd. Os dangosir tystiolaeth 'dderbyniol' o'r sgiliau a'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer y swydd y gwneir cais amdani, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad fel mater o drefn. Mae tystiolaeth 'dderbyniol' yn cyfeirio at fodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.