Sut y caiff fy nata personol eu defnyddio?

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym yn cymryd ein dyletswydd i brosesu eich data personol o ddifrif. Os ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch chi, rydym yn eich sicrhau ein bod yn prosesu’r wybodaeth honno mewn modd teg, cyfreithlon a diogel.

Caiff y wybodaeth y gofynnwn amdani fel rhan o’r broses ymgeisio ei defnyddio i’n galluogi i ystyried a ydych yn addas ar gyfer swydd wag neu gyfle profiad gwaith. Does dim rhaid i chi roi holl wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, ond gallai effeithio ar ein gallu i brosesu'ch cais ac asesu a ydych yn addas ar gyfer swydd os na wnewch chi hynny.

Mae gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd ar gael yma:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu, rheoli, defnyddio a diogelu eich data personol at ddibenion recriwtio, cysylltwch â'n tîm recriwtio yn y lle cyntaf drwy anfon neges at swyddi@senedd.cymru.