Grŵp yn trafod

Grŵp yn trafod

Prentisiaethau

Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2022   |   Amser darllen munudau

Gall ein prentisiaethau fod yn fan cychwyn gwych, neu yn newid gyrfa i'w groesawu.
Beth bynnag fo'ch cefndir neu'ch diddordebau, mae prentisiaeth yn y Senedd sy'n addas i chi.

Byddwch yn rhan o rywbeth y gallwch ymfalchïo ynddo

Mae pob prentisiaeth yn Senedd Cymru yn unigryw.

Ni waeth a oes gennych weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol neu eich bod heb benderfynu eto beth hoffech ei wneud, mae gennym lawer o ffyrdd o'ch helpu i ddod o hyd i rywbeth addas i chi a fydd yn eich helpu i ragori.

Gan ddilyn rhaglen a gynlluniwyd yn ofalus, byddwch chi'n dysgu gan y bobl y byddwch chi'n gweithio gyda nhw bob dydd.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau, cwrdd â phobl newydd, a datblygu eich gallu i weithio mewn gweithle prysur.

Pwy all fod yn brentis yn y Senedd?

Gall unrhyw un o gwbl fod yn brentis yn y Senedd. ac rydyn ni'n golygu hynny!

Efallai eich bod yn gadael yr ysgol ac yn chwilio am ffordd ymarferol o ddysgu'r sgiliau rydych yn dymuno eu datblygu. Efallai eich bod yn chwilio am yrfa newydd, neu eich bod yn ddi-waith neu wedi ymddeol. Beth bynnag fo'ch cefndir neu sefyllfa, mae yna brentisiaeth yma i chi, gyda'r holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd ei angen arnoch.

Rydym yn gwybod nad oes a wnelo eich talent â phwy ydych chi, o ble rydych chi'n dod, eich oedran, na'ch anabledd: credwn mewn amrywiaeth a chynhwysiant i bawb.