Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Cyhoeddwyd 15/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2022   |   Amser darllen munudau

Comisiwn y Senedd ('y Senedd') yw'r rheolydd data ar gyfer yr holl ddata personol y mae'n eu cadw. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 y DU ('DPA 18') a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ('GDPR').

Mae'r polisi preifatrwydd ar Arfer Hawliau o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data yn disgrifio sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth yn ogystal â polisi preifatrwydd ar gyfer ein wefan.

Pa hawliau sydd gan unigolion o dan y GDPR?

Mae'r GDPR yn cryfhau rhai o'r hawliau a roddir eisoes i unigolion o dan y gyfraith bresennol, ac mae hefyd yn cyflwyno rhai hawliau newydd. Rhestrir yr hawliau hyn isod, ond nid ydynt yn berthnasol ym mhob achos. Mae'r hawliau'n ddibynnol ar y 'sail gyfreithiol' a gaiff ei chymhwyso wrth i ni ddefnyddio'r wybodaeth dan sylw. Ceir rhagor o wybodaeth am ba hawliau sy'n gymwys mewn hysbysiadau preifatrwydd unigol.

Mae'r hawliau gwahanol sydd ar gael i chi yn cynnwys:

Yr hawl i gael gwybod: Yr hawl i gael gwybod bod eich data personol yn cael eu casglu a'u defnyddio; rydym yn darparu hysbysiadau preifatrwydd amrywiol a fydd yn nodi sut y caiff data personol eu defnyddio, ac mae polisi preifatrwydd ar y wefan hon;

Hawl mynediad: Gelwir hefyd yn 'fynediad gwrthrych'. Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch, yn ddarostyngedig i rai eithriadau;

Yr hawl i gywiro: Rydym am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol a gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch nad yw'n bodloni'r safonau hyn yn eich barn chi;

Yr hawl i ddileu: Nid yw hon yn hawl gyffredinol a bydd yn gymwys o dan amgylchiadau penodol yn unig;

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu: Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am i'w data personol gael eu cyfyngi neu eu hatal. Nid yw hon yn hawl gyffredinol a bydd yn gymwys o dan amgylchiadau penodol yn unig;

Yr hawl i gludadwyedd data: Mae'r hawl i gludadwyedd data yn rhoi'r hawl i unigolion gael mynediad i ddata personol a ddarparwyd ganddynt i reolydd mewn fformat sy'n strwythuredig, sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin ac sy'n ddarllenadwy i beiriannau;

Yr hawl i wrthwynebu: Mae GDPR yn rhoi'r hawl i unigolion wrthwynebu'r gwaith o brosesu eu data personol o dan rai amgylchiadau. Mae gan unigolion hawl absoliwt i atal eu data rhag cael eu defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol; a

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio: Y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â phob un o'r hawliau a ganlyn yw o fewn mis i gael y cais. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwnnw hyd at ddeufis ymhellach yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a'u cymhlethdod. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw estyniad o fewn mis, ac yn cael amlinelliad o'r rhesymau dros yr oedi.


Mae rhagor o fanylion am eich hawliau ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Sut i arfer eich hawliau

Gallwch ofyn i'r Senedd fynd i'r afael ag unrhyw un o'r hawliau hyn yn y ffyrdd a ganlyn:
Anfon e-bost at Ceisiadau-gwybodaeth@senedd.cymru

Ffonio 0300 200 6565

Anfon cais drwy'r post at:
Y Swyddog Diogelu Data
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN


Pan fyddwch yn anfon cais atom, cofiwch nodi'ch manylion cyswllt (enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth), fel y gallwn anfon y wybodaeth atoch. Dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl yn y cais fel y gallwn weld yn union pa wybodaeth yr ydych chi'n ei cheisio. Byddwn yn defnyddio eich data personol i ymateb i'ch cais ac i ddod o hyd i'r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani.

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion, ac efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi fel y gallwn fod yn sicr bod y data personol yn cael eu rhannu â'r unigolyn priodol.


Cwynion

Os ydych yn credu ein bod wedi camddeall eich cais neu ein bod wedi hepgor rhywbeth, cysylltwch â'r swyddog a fu'n ymdrin â'ch cais er mwyn trafod y mater. Gellir cywiro'r rhan fwyaf o gamgymeriadau a chamddealltwriaethau'n hawdd.

Os byddwch yn credu ein bod heb ddilyn y Cod Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth yn gywir neu heb gadw at y deddfau perthnasol, gallwch wneud cais am adolygiad mewnol cam cyntaf gan y swyddog a fu'n ymdrin â'ch cais. Os na fyddwch yn fodlon ar y canlyniad, gallwch wneud cais am ail adolygiad ffurfiol. Byddwn yn dilyn Cod Ymarfer ar Gwynion Comisiwn y Senedd wrth ymdrin ag unrhyw gwynion (gallwch gael copi drwy'r post).

Mae gennych hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd. Serch hynny, dylech fynd i'r afael â'r mater drwy ein gweithdrefn fewnol yn gyntaf cyn cwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad a ganlyn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745
Ffacs: (01625) 524 510

Mae trosolwg llawn o GDPR hefyd ar gal ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.