Hawlfraint

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2022   |   Amser darllen munudau

Telerau ac Amodau

Cyffredinol

Mae gwefannau senedd.cymru, senedd.wales a senedd.tv yn cael eu cyhoeddi a'u rheoli gan Gomisiwn y Senedd ('Ni' neu 'y Comisiwn'). Drwy ddefnyddio'r gwefannau hyn, rydych chi, y defnyddiwr ('chi' neu 'eich') yn derbyn y Telerau a'r Amodau hyn ('Telerau').

Mae gwefan Senedd Cymru ('y Senedd') a'i wefannau cysylltiedig yn cael eu cynnal i chi eu defnyddio a'u gweld. Pan ddefnyddiwch y gwefannau hyn, mae'n golygu eich bod yn derbyn y Telerau hyn sydd mewn grym o'r dyddiad cyntaf y cânt eu defnyddio.

Datganiad o hawlfraint

Mae'r rhan fwyaf o'r deunydd a geir ar y gwefannau hyn wedi'i wneud o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y Comisiwn a'r hawlfraint (ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill) yn y fath ddeunydd os yw'n eiddo i'r Comisiwn ('hawlfraint y Comisiwn'). Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Comisiwn yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb orfod cael caniatâd penodol. Mae hyn yn ddarostyngedig i'r Telerau Defnyddio a nodir isod. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y gwefannau hyn sydd dan hawlfraint y Comisiwn ei hailgyhoeddi neu ei chopïo ar wefannau eraill, rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint. Mae'r Comisiwn hefyd yn fodlon i ddefnyddwyr greu lincs hyperdestun i'r gwefannau hyn.

Mae rhywfaint o'r deunydd sydd ar y gwefannau hyn yn atgynhyrchu deunydd a gyflwynwyd i'r Senedd gan drydydd partïon at ddibenion Busnes y Senedd ac mae'n ddarostyngedig i hawlfraint y trydydd partïon hynny. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Comisiwn yn ymestyn i ddeunydd hawlfraint trydydd partïon. Cyn atgynhyrchu deunydd hawlfraint trydydd partïon, rhaid i chi fod yn sicr bod gennych hawl i wneud hynny heb dorri hawlfraint. Pan nad oes gennych hawl i atgynhyrchu'r fath ddeunydd, rhaid i chi gael awdurdod y deiliad/deiliaid hawlfraint dan sylw cyn atgynhyrchu'r deunydd.

Telerau Defnyddio

Os caiff deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Comisiwn ei lawrlwytho, ei atgynhyrchu a/neu ei ddefnyddio, rhaid ei atgynhyrchu'n gywir, nid mewn cyd-destun camarweiniol ac nid mewn modd a all ddwyn anfri ar y Senedd a/neu'r Comisiwn.

Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r deunydd at ddibenion dychanol; na hysbysebu, hyrwyddo, nawdd masnachol, nac unrhyw ffurf arall ar gyhoeddusrwydd at ddibenion masnachol neu elw ariannol.

Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r deunydd ar unrhyw wefan, cyfryngau cymdeithasol nac unrhyw lwyfan arall sy'n hyrwyddo, yn annog, neu'n hwyluso gweithgarwch anghyfreithlon; yn annog casineb ar sail oed, anabledd, hunaniaeth rywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol nac yn hyrwyddo, yn annog, neu'n hwyluso ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Logos

Mae enwau, delweddau a logos y Senedd yn nodau perchnogol y Comisiwn. Ni chaniateir copïo na defnyddio logo'r Senedd a/neu logos trydydd partïon eraill a geir drwy'r wefan hon, gwefannau sy'n ymwneud â'r senedd nac unrhyw un o'n sianeli digidol, heb ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo'r Senedd drwy'r ffurflen ymholiad cyffredinol, drwy gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth dros y ffôn neu drwy e-bost, neu drwy ysgrifennu at y canlynol:

Pennaeth Cyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Dylai'r cais ddweud wrthym sut a pham rydych am ddefnyddio'n logos. Nodwch eich manylion cyswllt, sef enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Creu hyperlincs

Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu lincs uniongyrchol i dudalennau ar y gwefannau hyn. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu lincs uniongyrchol i'r wybodaeth sydd ar ein gwefan. Dylai tudalennau gwe'r Senedd lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich gwefan.

Os ydych am gynnwys tudalennau gwe'r Senedd mewn gwefan porth, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r ffurflen ymholiad cyffredinol. Nodwch eich manylion cyswllt, sef enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost a disgrifiad o'ch gwefan porth.

Lincs o'r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir lincs iddynt. Ni ddylid ystyried cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr ag unrhyw fath o gymeradwyaeth. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y lincs hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y ceir lincs iddynt.

Defnyddio clipiau fideo a sain o Senedd.tv

Mae defnyddio clipiau fideo a sain gan Senedd.tv yn ddarostyngedig i hawlfraint y Comisiwn a'r Telerau Defnyddio a nodwyd uchod.

Fe'ch anogir i ddefnyddio ac ailddefnyddio'r deunydd sydd ar gael i'w lawrlwytho a'i rannu ar Senedd.tv, gydag ychydig o amodau yn unig.

Gellir lawrlwytho clipiau o ddeunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Comisiwn a gymerwyd ar gyfer Senedd.tv a'u storio ar eich cyfarpar yn rhad ac am ddim heb ofyn am ganiatâd penodol, ond bydd hynny bob amser yn ddarostyngedig i'r Telerau hyn ac yn unol â hwy. Mae'r fath glipiau a gaiff eu lawrlwytho yn parhau i fod yn ddarostyngedig i hawlfraint y Comisiwn a chewch drwydded heb freindal, nad yw'n gyfyngedig, na ellir ei throsglwyddo na'i neilltuo, y caniateir ei therfynu i lawrlwytho'r fath glipiau i'ch cyfarpar a'u storio arno. Cawn derfynu'r drwydded hon ar unrhyw adeg trwy rybudd i chi (a fydd, fel arfer, trwy e-bost, ond rydym yn cadw'r hawl i ddefnyddio ffurfiau hysbysu eraill). Os byddwn yn terfynu'r drwydded hon, rhaid i chi roi'r gorau i'w defnyddio a dileu clipiau a lawrlwythwyd sydd yn eich meddiant neu y mae gennych reolaeth drostynt.

Cewch olygu cynnwys clipiau a lawrlwythwyd i fformatau gwahanol er mwyn eu gwylio, a chewch gymryd camau i wella hygyrchedd y deunydd, gan gynnwys ychwanegu penawdau a/neu isdeitlau, yn amodol ar y Telerau hyn ac yn unol â hwy. Ni chaniateir addasu, newid na thrin deunydd mewn unrhyw ffordd arall.

Gwarchod rhag feirysau

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar wefan y Senedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal rhaglen gwrth-feirysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho. Ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth na niwed i'ch data, eich systemau cyfrifiadurol neu fel arall a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a gafwyd oddi ar wefan y Senedd.

Gwarantau ac atebolrwydd

Mae gwefan y Senedd, a gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau'r Senedd a'r Comisiwn (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd partïon) yn cael eu darparu 'fel y maent' heb wneud sylw na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, cydweddoldeb, diogelwch, cywirdeb a heb dor rheolau.

Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y deunydd ar y gwefannau hyn yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y gwefannau hyn neu'r gweinyddwr yn sicrhau eu bod ar gael heb feirysau nac yn cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Rydych yn gwarantu y byddwch yn cydymffurfio'n llwyr â'r holl gyfreithiau a rheoliadau sy'n berthnasol i'ch defnydd o unrhyw ddeunydd y Senedd neu'r Comisiwn y byddwch yn ei lawrlwytho neu'n ei ddefnyddio.

Ni fyddwn, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl a ddaw o ddefnyddio neu fethu â defnyddio data, nac elw sy'n deillio o'r defnydd o wefannau'r Senedd neu sy'n gysylltiedig â hynny.

Arall

Cawn newid y Telerau hyn neu derfynu unrhyw drwydded a gyflwynwyd oddi tanynt ar unrhyw adeg. Byddwn yn diweddaru'r Telerau ar http://www.senedd.cymru/cy/help/Pages/terms.aspx pan wneir newid. Chi sy'n gyfrifol am wirio eich bod yn cydymffurfio â'r telerau a ddiweddarwyd.

Ni chewch drosglwyddo nac is-drwyddedu eich hawliau na'ch rhwymedigaethau dan y Telerau hyn i unrhyw drydydd parti heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Mae'r Telerau hyn yn berthnasol hyd yn oed os caiff trwydded a gyflwynwyd oddi tanynt ei therfynu.

Ni ddehonglir unrhyw fethiant neu oedi gennym wrth arfer ein hawliau oddi tan y Telerau hyn fel hepgoriad o'r hawliau hynny.

Os oes gennych gŵyn am eich defnydd o'r gwefannau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Senedd yn gyffredinol, cewch gwyno trwy'r weithdrefn ganlynol: http://www.senedd.cymru/cy/help/contact-the-assembly/con-complaint/Pages/con-complaint-procedure.aspx

Mae'r Telerau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig, sy'n eistedd yng Nghymru.