Polisi Datgeliadau er Lles y Cyhoedd ("Chwythu'r Chwiban")

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Polisi Datgeliadau er Lles y Cyhoedd ("Chwythu'r Chwiban")

 

Ystyr Chwythu'r Chwiban yw gweithiwr yn adrodd am gamwedd posibl yn y gweithle. Yn swyddogol, gelwir hyn yn 'ddatgelu er lles y cyhoedd'.

Gall cyflogai roi gwybod am bethau nad ydynt yn iawn, pethau sy'n anghyfreithlon, neu os oes unrhyw un yn y gwaith yn esgeuluso eu dyletswyddau, gan gynnwys:

  • os bydd iechyd a diogelwch rhywun mewn perygl;
  • difrod i'r amgylchedd;
  • trosedd fel twyll, llygredd neu lwgrwobrwyo;
  • os nad yw'r cwmni yn ufuddhau i'r gyfraith, fel torri deddfwriaeth diogelu data;
  • cuddio camweddau.

Mae Comisiwn y Senedd yn annog diwylliant rhydd ac agored mewn trafodion rhwng ei weithwyr cyflogedig a'r holl bobl y mae'n ymgysylltu â hwy mewn cysylltiadau busnes a chyfreithiol. Yn benodol, mae Comisiwn y Senedd yn cydnabod bod cyfathrebu effeithiol a gonest yn hanfodol er mwyn ymdrin â methiannau neu ddiffyg cydymffurfio yn effeithiol, ac i sicrhau llwyddiant y sefydliad. Mae polisi'r Comisiwn wedi ei lunio i roi arweiniad i bawb sy'n gweithio yn y Senedd, neu gyda'r Senedd, a allai, o bryd i'w gilydd, deimlo bod angen iddynt godi materion penodol mewn perthynas â'r Senedd gyda rhywun yn gyfrinachol. Diben y polisi hwn yw:

  • Annog gweithwyr i roi gwybod am gamweddau posibl cyn gynted ag y bo modd, gan wybod y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif ac y byddant yn cael eu hymchwilio fel y bo'n briodol, ac y bydd eu cyfrinachedd yn cael ei barchu;
  • Rhoi canllawiau i weithwyr ynghylch sut i godi'r pryderon hynny;
  • Diogelu gweithwyr a'r Senedd rhag honiadau di-sail a maleisus, a
  • Sicrhau i staff na fydd gweithwyr sy'n codi pryderon gwirioneddol mewn ewyllys da o dan y polisi, mewn unrhyw amgylchiadau, yn destun unrhyw fath o anfantais o ganlyniad i fod wedi codi eu pryderon.

Yn achos pryderon sy'n ymwneud ag Aelodau o'r Senedd neu aelodau o'u staff, gallai hyn olygu cyfeirio'r mater at y Comisiynydd Safonau annibynnol, os bydd y pryder o dan sylw yn ymwneud â 'darpariaeth berthnasol' y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd ymchwilio iddi.

Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â:

Senedd Cymru

Cysylltu â'r Senedd

E-bost: ChwythurChwiban@senedd.cymru

Y Comisiynydd Safonau

http://comisiynyddsafonaucymru.org/ [Opens in a new browser window] (gwefan allanol)

Swyddfa Archwilio Cymru

http://www.wao.gov.uk/cymraeg/home.asp [Opens in a new browser window] (gwefan allanol)