Strategaeth Comisiwn y Senedd 2021 – 2026

Cyhoeddwyd 22/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn helpu i hwyluso ei lwyddiant hirdymor fel sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar a deddfwrfa sy’n gwasanaethu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Ei brif swyddogaeth statudol yw darparu’r staff, eiddo a gwasanaethau sydd eu hangen ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei waith.

Mae’r Comisiynwyr, y Llywydd ac Aelod o bob un o’r pedair plaid fwyaf yn gyfrifol am lywodraethu’r sefydliad, ac maent yn atebol i’r Cynulliad. Mae’r Comisiynwyr yn gosod ein nodau a’n blaenoriaethau strategol, gan ddarparu’r arweinyddiaeth i’w rhoi ar waith, goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r nodau strategol hynny ac adrodd arnynt, a bod yn atebol i’r Cynulliad ar eu stiwardiaeth.

Mae’r Nodau Strategol yn pennu’r prosiectau a’r gweithgareddau yr ydym yn eu blaenoriaethu er mwyn eu cyflawni, ac maent wedi’u cyhoeddi isod.

 

Blaenoriaethau strategol 2021 - 2026 (Comisiwn ar dudalen)