Busnes y Senedd

Cyhoeddwyd 19/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/08/2020   |   Amser darllen munudau

Busnes y Senedd

Mae Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd yn darparu cymorth seneddol arbenigol i Aelodau er mwyn sicrhau bod busnes yn cael ei gynnal yn effeithiol ac effeithlon. Yn benodol, mae’n darparu’r gwasanaethau a ganlyn:

Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i sicrhau bod modd i’r Senedd weithio’n ddwyieithog.

Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth / Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Ar draws y ddau dîm, mae staff yn darparu cymorth ysgrifenyddol i bwyllgorau’r Senedd a chyngor trefniadol i Gadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau.

Mae Ysgrifenyddiaeth y Siambr yn sicrhau bod y Cyfarfod Llawn yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn rhoi cyngor gweithdrefnol i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd ac i Aelodau eraill.

Mae’r Tîm Cefnogi Craffu yn bodoli i gynorthwyo Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgorau i gefnogi hynt deddfwriaeth drwy’r Senedd. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynigion deddfwriaethol gan Aelodau unigol.

Y Gwasanaeth Cyfreithiol

Mae Gwasanaeth Cyfreithiol y Senedd yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol a diduedd i’r Llywydd, y Comisiynwyr, Aelodau o'r Senedd, y Prif Weithredwr ac adrannau eraill Comisiwn y Senedd. Darperir gwasanaethau yn gyfrinachol yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r holl gynghorwyr cyfreithiol yn gyfreithwyr sy’n gymwys i weithio yng Nghymru a Lloegr. Maent yn arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol, a chyfraith datganoli yng Nghymru, yn ogystal ag yn y meysydd polisi y mae'r Senedd yn deddfu ynddynt. Mae Gwasanaeth Cyfreithiol y Senedd yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Y Gwasanaeth Ymchwil

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn darparu gwybodaeth a chymorth ymchwil cyfrinachol a diduedd i Aelodau o’r Senedd a’r pwyllgorau.

Y Swyddfa Gyflwyno

Mae’r Swyddfa Gyflwyno yn darparu cyngor ac yn dyfarnu ar dderbynioldeb cwestiynau a chynigion; cyhoeddi’r gofrestr o fuddiannau Aelodau; rhoi cyfarwyddyd ar gofrestru a datgan buddiannau; ac yn cyhoeddi’r holl ddogfennau a osodir gerbron y Senedd.

Uned Trawsnewid Strategol

Mae'r Gwasanaeth Trawsnewid Strategol yn gyfrifol am gynllunio a dylanwadu gweithredol mewn perthynas â newid cyfansoddiadol a rôl y Senedd. Mae'n arwain y gwaith o drawsnewid elfennau hanfodol o wasanaethau'r Senedd ac yn rheoli prosiectau mawr sy'n uniongyrchol gysylltiedig â busnes y Senedd a'i gapasiti strategol. Mae hefyd yn cefnogi a chynghori'r Bwrdd Taliadau.