Laura Anne Jones - Profil

Laura Anne Jones - Profil

Cyfle Gwaith: Cynorthwy-ydd Personol i Laura Anne Jones AS

Cyhoeddwyd 20/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwy-ydd Personol i Laura Anne Jones AS

Ystod Cyflog: £23,742 - £31,798 pro rata

Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau Gweithio: 37

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Swyddfa Etholaeth - Casnewydd NP20 4PG

Cyfeirnod: MBS-044-24

Pwrpas y Swydd

I ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

  1. Trawsgrifio/teipio (gan gynnwys clywdeipio) amrywiol lythyron a / neu adroddiadau (sy’n fwy perthnasol i swydd Cynorthwyydd Personol 
  2. Cynnal system ffeilio, cysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau ar gais
  3. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
  4. Didoli post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.
  5. Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol 

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, ee systemau llaw a chyfrifiadurol
  • Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i hynny.
  • Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt.

    Cymwysterau hanfodol

  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol neu;
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch.

Sgiliau ac ymddygiad hanfodol

  • Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac i derfynau amser tyn, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg ac i ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl
  • Sgiliau cyfathrebu o’r radd flaenaf
  • Y gallu i ysgrifennu areithiau, datganiadau i’r wasg a nodiadau briffio

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â laura.jones@senedd.wales

Dyddiad cau: 17:00, Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2024. 

Dyddiad cyfweliad: TBC