Cynorthwyydd Gweinyddol i Heledd Fychan AS
Ystod Cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau Gweithio: lan i 30 awr
Natur y penodiad: Dro dro am 3 mis.
Lleoliad: Swyddfa’r rhanbarthol, Pontypridd
Cyfeirnod: MBS-010-24
Pwrpas y Swydd
I ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol a chymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Paratoi amrywiol lythyron neu adroddiadau fel bo’r angen
- Cynnal system ffeilio ddigidol gan gynnwys gwaith achos gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau ar gais
- Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol
- Didoli post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, ee systemau llaw a chyfrifiadurol
- Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i hynny.
- Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt.
Cymwysterau hanfodol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol neu;
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch neu:
- Profiad cymharol mewn swydd debyg
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Heledd.Fychan@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00, 27 Mehefin 2024.
Dyddiad cyfweliad: 05 a/neu 08 Gorffennaf 2024