Cynorthwyydd Gweinyddol i Jeremy Miles AS
Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 7.4 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa'r etholaeth, yng Nghastell-nedd
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-032-24
Diben y swydd:
Darparu cymorth gweinyddol ac etholaethol, a chymorth ar faterion cyhoeddusrwydd, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol
- Darparu cymorth gweinyddol, gwaith achos ac ymchwil pan fo angen
- Drafftio llythyrau sylfaenol, nodiadau briffio a dogfennau eraill y mae ar yr Aelod o’r Senedd eu hangen
- Prosesu a rheoli hawliadau a threuliau
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gweithio yn effeithiol mewn swyddfa, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol
- Profiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
- Profiad o ddefnyddio pecynnau TG megis Office
Cymwysterau Hanfodol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol, neu
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Jeremy.Miles@senedd.cymru
Dyddiad cau: 16:00, 28 Hydref 2024
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau