Jane Dodds AS

Jane Dodds AS

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu i Jane Dodds AS

Cyhoeddwyd 10/04/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/04/2025

Swyddog Cyfathrebu i Jane Dodds AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 - £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr (2 ddiwrnod yr wythnos)
Natur y penodiad: Cyfnod penodol hyd at ddiddymiad y Senedd ym mis Ebrill 2026, gyda'r posibilrwydd o estyniad neu swydd barhaol. 
Lleoliad: Senedd Cymru, Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-002-25

Diben y swydd:

Gwneud gwaith ymchwil/gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cadw.

Prif ddyletswyddau:

  1. Sefydlu ystod eang o gysylltiadau â’r wasg, y cyfryngau darlledu a’r cyfryngau ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
  2. Gwneud gwaith ymchwil, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg ar gyfer y  cyfryngau
  3. Trafod gyda’r Aelod o’r Senedd / y Rheolwr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i’r cyfryngau
  4. Nodi digwyddiadau sydd i ddod a all fod yn gyfleoedd ar gyfer sylw yn y cyfryngau

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus
  • Gwybodaeth am ddulliau o ymdrin â’r cyfryngau, a dealltwriaeth ohonynt gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu.
  • Dealltwriaeth o’r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy’n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw’n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu’n ddifenwol
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Jane.Dodds@Senedd.Cymru 


Dyddiad cau: 17:00, Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mercher 7 Mai 2025