Barn plant a phobl Ifanc: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Cyhoeddwyd 22/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2023   |   Amser darllen munudau

Y terfyn amser i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i rannu eich barn oedd 10 Tachwedd 2023. Diolch i bawb a rannodd farn â ni.

 


Mae angen eich help arnom

Rôl y Pwyllgor Biliau Diwygio yw edrych ar ddeddfau i newid y Senedd (sef proses rydym ni’n cyfierio ati fel Diwygio'r Senedd).

Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a fydd yn newid nifer yr Aelodau a sut maen nhw’n cael eu hethol.

Gallwch ein helpu ni â'n gwaith drwy rannu eich barn am unrhyw un, neu bob un, o'r cwestiynau ar y ffurflen hon.

Y dyddiad cau yw 17:00 ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

Mae'n ddrwg gennym os nad yw hyn yn rhoi llawer o amser i chi, ond rydym am wneud yn siŵr y gallwn ni ystyried eich barn pan fyddwn ni’n holi Llywodraeth Cymru am y Bil ym mis Rhagfyr. Nid oes rhaid i chi ysgrifennu llawer, ac nid oes angen i chi ateb pob cwestiwn oni bai eich bod chi eisiau gwneud hynny.

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae rhai o'r prif newidiadau a fwriedir ar gyfer y Senedd yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96;
  • Newid y ffordd y mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol;
  • Lleihau’r amser rhwng etholiadau’r Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd;
  • Byddai’n rhaid i Aelodau o’r Senedd ac unrhyw un sy’n sefyll yn etholiad y Senedd fod yn byw yng Nghymru.

Yn ddiweddarach eleni, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil ar wahân sy'n edrych ar amrywiaeth y bobl sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd ac yn nodi cynlluniau i wneud yn siŵr bod nifer cyfartal o fenywod a dynion yn sefyll yn etholiad y Senedd.

Cliciwch ar y pynciau isod i ddarganfod mwy.

 

Cynyddu nifer yr Aelodau

Mae'r Bil yn cynyddu nifer yr Aelodau etholedig o 60 i 96. Gwaith Aelodau o'r Senedd yw goruchwylio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys y cyfreithiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud a'r arian y mae'n ei wario. Mae Aelodau o'r Senedd hefyd yn cynrychioli'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd y mae nhw’n eu cynrychioli.

Mae llawer o adroddiadau wedi dweud nad yw 60 Aelod yn ddigon i wneud y gwaith hwn.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd a bod perygl nad oes gan yr Aelodau ddigon o amser i:

  • edrych ar bolisïau, deddfau a gwariant Llywodraeth Cymru,
  • darganfod beth mae pobl Cymru ei eisiau,
  • gwneud gwaith ychwanegol os bydd Llywodraeth Cymru yn cael mwy o bwerau yn y dyfodol (a elwir yn ddatganoli pellach), ac
  • edrych ar gyfreithiau Llywodraeth y DU a chytundebau rhyngwladol sy'n effeithio ar Gymru.

Nid yw rhai pobl yn meddwl fod angen rhagor o Aelodau, mae rhai pobl yn pryderu am y costau, ac mae rhai pobl yn meddwl bod pethau eraill yn bwysicach ar hyn o bryd.

Newid y ffordd y mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol

Ar hyn o bryd mae dwy system bleidleisio i ethol y 60 Aelod o'r Senedd. Y rhain yw:

  • system o’r enw y cyntaf i’r felin; a
  • system o'r enw System Cynrychiolaeth Gyfrannol â Rhestrau Caeedig.

Y Cyntaf i'r Felin

Eich pleidlais gyntaf yw yr un i ethol y person yr hoffech chi ei gael i gynrychioli eich etholaeth.

Eich etholaeth yw eich ardal leol. Mae 40 o etholaethau yng Nghymru. Er enghraifft, mae Caerffili yn etholaeth yn ne Cymru a Wrecsam yn etholaeth yng ngogledd Cymru.

Dim ond 1 sedd sydd ym mhob etholaeth a'r person sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill. Mae 40 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol fel hyn.

Dyma’r system bleidleisio sy’n cael ei defnyddio i ethol 40 o’r 60 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Cynrychiolaeth Gyfrannol â Rhestrau Caeedig

Mae eich ail bleidlais i ethol plaid wleidyddol i gynrychioli eich rhanbarth.

Mae plaid wleidyddol yn grŵp sy’n cytuno sut i wneud bywyd yn well i bobl. Maen nhw’n dod at ei gilydd ac yn cael ymgeisydd ar gyfer etholiad.

Yng Nghymru mae pleidiau gwleidyddol yn cynnwys:

  • Plaid Cymru
  • Y Ceidwadwyr Cymreig
  • Llafur Cymru
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Mae 5 rhanbarth yng Nghymru

  • Gogledd Cymru
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gorllewin De Cymru
  • Canol De Cymru
  • Dwyrain De Cymru

Yn y bleidlais hon, y pleidiau gwleidyddol sy’n ennill seddi yn y Senedd. Nhw sy’n dewis pa bobl o'u plaid sy'n cael y seddi.

Caiff y bleidlais hon ei chyfrif mewn ffordd arbennig i helpu i wneud yn siŵr bod y pleidleisio’n gyfrannol.

Ystyr pleidleisio cyfrannol yw bod y gyfran o bleidleisiau y mae plaid wleidyddol yn eu cael yn cyfateb i'r gyfran o seddi y mae'n eu hennill.

Mae 20 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol fel hyn ar hyn o bryd - 4 o bob un o’r 5 rhanbarth.

Efallai y bydd y fideos ar y wefan hon yn helpu i esbonio sut mae'r Senedd yn gweithio a sut mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol.

Cyflwyno system etholiadol newydd

Mae'r Bil yn creu 16 o etholaethau newydd, mwy. Bydd gan bob un o'r etholaethau newydd 6 Aelod. Bydd hyn yn golygu cyfanswm o 96 o Aelodau.

Mae hefyd yn newid y system bleidleisio fel y byddai’r holl Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol gan ddefnyddio system debyg i'r System Cynrychiolaeth Gyfrannol â Rhestrau Caeedig a gaiff ei defnyddio ar hyn o bryd i ethol Aelodau rhanbarthol.

Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y byddwch yn pleidleisio. Gallwch ddewis:

  • Pleidleisio dros blaid wleidyddol; neu
  • Pleidleisio dros unigolyn os nad yw'n perthyn i blaid wleidyddol.

Os ydych chi'n pleidleisio dros blaid wleidyddol, y blaid wleidyddol fydd yn penderfynu pa bobl o'u plaid gaiff y seddi.

Caiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn ffordd arbennig i wneud yn siŵr bod gan y Senedd yr un cydbwysedd o bleidiau gwleidyddol ag y mae pobl wedi pleidleisio drostynt.

Lleihau’r amser rhwng etholiadau’r Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd

Roedd etholiadau'r Senedd yn arfer cael eu cynnal bob pedair blynedd. Ond yn 2011 fe wnaeth cyfraith newydd bennu amseriad etholiadau Senedd y DU. Ers hynny, mae etholiadau'r Senedd wedi cael eu cynnal bob 5 mlynedd er mwyn osgoi gwrthdaro ag etholiadau Senedd y DU. Mae'r gyfraith sy'n newid amser etholiadau Senedd y DU wedi cael ei dileu.

Mae’r Bil yn lleihau’r amser rhwng etholiadau’r Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai etholiadau'r Senedd fynd yn ôl i fod bob 4 blynedd gan fod y gyfraith i gynnal etholiadau Senedd y DU bob 5 mlynedd wedi cael ei dileu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn golygu:

  • Byddai pleidleiswyr yn cael cyfle i roi eu barn yn amlach am beth mae nhw’n ei feddwl o’r gwleidyddion sy'n eu cynrychioli.
  • Byddai gan Lywodraeth Cymru ddigon o amser o hyd i weithredu ei pholisïau.
Byddai’n rhaid i Aelodau o’r Senedd ac unrhyw un sy’n sefyll yn etholiad y Senedd fod yn byw yng Nghymru

Mae'r Senedd yn gwneud cyfreithiau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw, gweithio ac astudio yng Nghymru. Ar hyn o bryd gall pobl sy'n byw y tu allan i Gymru sefyll i gael eu hethol i'r Senedd.

Mae gofynion gwahanol yn berthnasol i bobl sy'n sefyll mewn etholiad mewn mannau eraill. Er enghraifft, gall unrhyw berson ifanc sy'n byw yng Nghymru, neu sy'n cael addysg yng Nghymru, sydd rhwng 11 a 18 oed sefyll fel ymgeisydd yn un o'r 40 sedd etholaethol yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Dim ond pobl sy’n byw yng Nghymru fyddai’n cael caniatâd o dan y Bil i sefyll i gael eu hethol i'r Senedd.

Gallai pobl sy'n sefyll mewn etholiad fyw mewn unrhyw le yng Nghymru. Er enghraifft, gallai rhywun sy'n byw mewn un rhan o Gymru gael ei ethol i gynrychioli rhan arall o Gymru.

Hefyd, byddai’n rhaid i bobl sy'n cael eu hethol i'r Senedd fyw yng Nghymru am y cyfnod y maent yn Aelodau o'r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn deg y dylai pobl sydd am sefyll yn etholiad y Senedd neu fod yn Aelod o'r Senedd orfod byw yng Nghymru oherwydd:

  • Mae'n rhaid i bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd fyw yng Nghymru.
  • Mae Aelodau o'r Senedd yn gwneud cyfreithiau sy'n berthnasol i Gymru, a dylai pobl sy'n gwneud y cyfreithiau fod yn eu dilyn.
Amrywiaeth ymgeiswyr sy’n cael eu hethol i'r Senedd

Dywedodd llawer o adroddiadau y byddai'n well cael Senedd llawn amrywiaeth.

Ystyr amrywiaeth yw mwy o Aelodau o’r Senedd o wahanol gefndiroedd gyda gwahanol alluoedd a safbwyntiau.

Mae'r system bleidleisio newydd yn golygu mai pleidiau gwleidyddol sy’n gofalu am pa bobl gaiff eu seddi. Gallai hyn ei gwneud yn haws iddynt wneud yn siŵr eu bod yn dewis pobl o wahanol gefndiroedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn rhoi canllawiau fydd yn helpu pleidiau gwleidyddol i gynllunio i annog amrywiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cyflwyno Bil ar wahân:

  • y bydd yn rhaid i bleidiau gwleidyddol gyflwyno nifer cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd i gael eu hethol i'r Senedd, a
  • gwneud yn siŵr bod gwybodaeth am amrywiaeth y bobl sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd yn cael ei chyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y dulliau hyn yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod y Senedd mor amrywiol â Chymru gyfan.