Dychmygiadau Cartograffig: Dehongli’r Atlas Llenyddol

Cyhoeddwyd 11/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Arddangosfa a noddir gan Bethan Sayed AC
Senedd & Pierhead
8 Ionawr - 20 Chwefror

Mae’r arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig yn cyflwyno casgliad ysbrydoledig o waith celf a gomisiynwyd mewn ymateb i ddeuddeg nofel Saesneg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae'r rhain yn rhan o brosiect ehangach Atlas Llenyddol Cymru, sy'n ymchwilio i sut mae llyfrau a mapiau'n ein helpu i ddeall natur ofodol y cyflwr dynol. Yn fwy penodol, mae'n edrych ar sut mae nofelau Saesneg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o natur wir a natur ddychmygol y wlad, ei hanes a'i chymunedau.

Ym mrîff y comisiwn, gwahoddwyd artistiaid i "chwarae gyda syniadau traddodiadol o ran mapio cartograffig, ac i archwilio'r posibiliadau o gyfleu'r cysylltiadau’n weledol rhwng 'tudalen' a 'lle', ac hefyd rhwng 'llyfrau' a 'mapiau'”.

Drwy ddulliau amrywiol, mae pob gwaith yn profi, yn union fel nad oes un ffordd i ddarllen llyfr neu i adnabod lle; mae pob un yn creu ac yn byw yn ei 'fyd dychmygol cartograffig' unigryw ei hun. Eto, gyda'i gilydd, mae'r gwaith yn cyfleu lleisiau niferus sy'n siarad am gyfoeth ysgrifennu, meddwl, ac am fyw mewn Cymru "go iawn a Chymru ddychmygol”.

Concrete Ribbon Road - Joni Smith

Artist a Nofel

John Abell: Revenant - Tristan Hughes (2008)

Iwan Bala: Twenty Thousand Saints - Fflur Dafydd (2008)

Valerie Coffin Price: Price The Rebecca Rioter - Amy Dillwyn (1880)

Liz Lake: Shifts - Christopher Meredith (1988)

Richard Monahan: Aberystwyth Mon Amour - Malcom Pryce (2009)

George Sfougaras: The Hiding Place - Trezza Azzopardi (2000)

Joni Smith: Mr Vogel - Lloyd Jones (2004)

Amy Sterly: Pigeon - Alys Conran (2016)

Locus: Sheepshagger by Niall Griffiths (2002)

Rhian Thomas: Border Country by Raymond Williams (1960)

Seán Vicary: The Owl Service by Alan Garner (1967)

Cardiff University Student Project Strike for a Kingdom by Menna Gallie (1959)

Hiraeth for Beginners - John Abell

Dewch i weld yr arddangosfa yn y Senedd a'r Pierhead adeilad cyn rhannu eich gwaith celf a'ch straeon chi fel rhan o weithgaredd gydweithredol yn y Senedd.

Dilynwch ni ar Instagram, Facebook a Twitter er mwyn cadw golwg ar yr hyn sydd yn digwydd ar ystâd y Cynulliad.