Hyrwyddo cydraddoldeb yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2020

Aelodau Cynulliad yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - diwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod ym meysydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae’r diwrnod hefyd yn annog camau breision i sicrhau cydraddoldeb i fenywod.

Eleni, y thema yw #PawbDrosGydraddoldeb, neu #EachforEqual yn Saesneg. Mae’r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall ein holl weithredoedd, sgyrsiau, ymddygiadau ac agweddau gael effaith ar gymdeithas. Gyda’n gilydd, gall pob un ohonom helpu i greu byd sy’n sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Cydraddoldeb yn greiddiol inni

Y Senedd

Rydym yn falch o fod yn hyrwyddwyr cydraddoldeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers iddo gael ei sefydlu ym 1999, mae’r egwyddor o gyfleoedd cyfartal wedi bod yn greiddiol i’r Cynulliad.

Mae’r deddfau a’r rheolau sy’n llywodraethu gwaith y Cynulliad yn cynnwys gofynion penodol y dylid gwneud ein gwaith gan roi sylw dyledus i’r egwyddor ein bod yn sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.

Arwain y ffordd

Fel deddfwrfa, rydym wedi arwain y ffordd o ran cydraddoldeb. Yn 2003, ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gyda 30 o fenywod a 30 o ddynion yn Aelodau’r Cynulliad. Ar hyn o bryd, mae 47 y cant o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod. Nid yw’r gyfran erioed wedi gostwng o dan 40 y cant.

Yn fyd-eang, canran gyfartalog y menywod mewn seneddau cenedlaethol yw 24 y cant. Mae’r Cynulliad bob amser wedi bod â chyfran uwch o Aelodau sy’n fenywod na Thŷ’r Cyffredin, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Menywod sydd â rhai o’r rolau mwyaf blaenllaw yn y Cynulliad. Ein Llywydd yw Elin Jones. Mae’r rôl hon yn debyg i rôl Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd, er bod y cyfrifoldebau’n amrywio o wlad i wlad. Ann Jones AC yw’r Dirprwy Lywydd.

Manon Antoniazzi yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad. Mae 60 y cant o uwch reolwyr y Cynulliad yn fenywod.

Rhoi llwyfan i bobl ifanc

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi llwyfan i bobl ifanc ddweud eu dweud a thrafod materion pwysig. Mae cydraddoldeb a chynwysoldeb yn greiddiol i’r Senedd Ieuenctid. Cafodd 60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed eu hethol yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, ac roedd 58 y cant ohonynt yn fenywod ifanc.

Senedd Ieuenctid Cymru gyda'r Llywydd

Ein gwaith

Rydym yn ymchwilio i faterion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys rhianta a gwaith; trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cynulliad ar gael drwy ein cyfrifon Instagram, Twitter a Facebook. Gallwch hefyd ymweld â ni.