Annog pleidleiswyr ifanc i ‘ddefnyddio dy lais’ yn Etholiad y Senedd 2021

Cyhoeddwyd 22/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2021   |   Amser darllen munudau

  • Wythnos Pleidlais 16 ar 22-26 Chwefror yn codi ymwybyddiaeth a rhoi hyder i bobl ifanc bleidleisio am y tro cyntaf
  • Defnyddia Dy Lais - Ymgyrch Etholiad 2021 Senedd Cymru yn pwysleisio pŵer defnyddio dy lais, drwy gofrestru a phleidleisio  

Ym mis Mai, bydd pobl Cymru yn cael cyfle i benderfynu pwy fydd yn eu cynrychioli yn Senedd Cymru. Am y tro cyntaf erioed yng Nghymru bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael bwrw pleidlais gan fanteisio ar hawliau newydd i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr ifanc o’u hawliau newydd, mae Senedd Cymru yn cynnal Wythnos Pleidlais 16 rhwng 22 – 26 Chwefror. Dyma ddechrau ei hymgyrch ehangach yn annog pawb i Ddefnyddio dy Lais drwy ddathlu pŵer y bleidlais. Bydd yr ymgyrch  yn pwysleisio fod pob llais yn cyfrif yn yr etholiad, gan hyrwyddo dyddiad allweddol cofrestru i bleidleisio – 19 Ebrill – ac esbonio’r broses.

Fe fydd ymgyrch hysbysebu i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill yn targedu’r neges Defnyddia Dy Lais at bobl ifanc ac yn eu harwain at fwy o wybodaeth ar Hwb Etholiad gwefan Senedd Cymru, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau a gweithgareddau i ddysgu mwy am y Senedd a’i dylanwad ar Gymru.

Ar gyfer Wythnos Pleidlais 16, mae amserlen o weithgareddau digidol ar gael i ysgolion, grwpiau ac unigolion ledled Cymru – o weithdai a chyflwyniadau i wasanaethau ysgol. Y nod yw addysgu pobl ifanc am y broses bleidleisio a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio eu llais dros yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn goron ar yr wythnos bydd Ffug Etholiad sy’n gyfle i bobl ifanc roi eu sgiliau dadlau ar waith. Ar brynhawn Gwener, 26 Chwefror, bydd grwpiau o ieuenctid yn cael eu herio i ffurfio plaid a llunio maniffesto cyn ei gyflwyno a cheisio dwyn perswâd ar y gynulleidfa i bleidleisio o’u plaid nhw. Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Teleri Glyn Jones sy’n cyflwyno yn holi’r pleidiau yn ddyfnach am eu polisïau, ac mae cyfle i bawb ymuno drwy wylio a phleidleisio.

Er mwyn pwysleisio pwysigrwydd llais pobl ifanc, bydd Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn cwrdd ar y cyd â Senedd Cymru, am y tro olaf ar ddiwedd tymor dwy flynedd. Bydd y cyfarfod brynhawn Mercher 24 Chwefror yn gyfle i gloriannu cyfraniad a gwaith y Senedd Ieuenctid gyntaf wrth gynrychioli llais pobl ifanc Cymru wrth galon democratiaeth. Mae ar gael yn fyw ar Senedd.tv

Meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones AS;

“Bydd Etholiad 2021 yn aros yn y cof am lawer o resymau wrth i ni barhau i ddygymod â loes a niwed y pandemig. Ond byddwn ni hefyd yn cofio mai 2021 oedd y flwyddyn y gwnaethon ni roi’r grym i’n pobl ifanc 16 ac 17 oed i ddefnyddio eu llais a chyfrannu’n wirioneddol at broses ddemocrataidd eu gwlad, i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli nhw yn eu Senedd.

“Nod ymgyrch Senedd Cymru, a chanolbwynt gwaith addysgu ac ymgysylltu, yw magu hyder pleidleiswyr ieuengaf Cymru i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd nawr ac am flynyddoedd i ddod, gan ddechrau gyda chofrestru a bwrw eu pleidlais gyntaf ym mis Mai. Mae’n bwysig iddyn nhw wybod bod eu llais yn cyfrif.”

Amserlen Wythnos Pleidlais 16

Bob dydd, 22-26 Chwefror, mi fydd digwyddiad rhithwir ar gael i grwpiau, ddosbarthiadau neu unigolion gymryd rhan. Mae’n dwyn ynghyd holl sesiynau, adnoddau, gweithdai a gweithgareddau sydd yn cael eu cynnig yn wythnosol gan wasanaeth addysg ac ymgysylltu Senedd Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar yr Hwb Etholiad ar wefan Senedd Cymru sydd hefyd yn cynnwys help i athrawon, arweinwyr ieuenctid a phobl ifanc eu hunain i gynnig sesiynau a gweithgareddau i ennyn diddordeb yn yr etholiad.

 

Dydd Llun

22 Chwefror

Hyfforddi’r Hyfforddwr – Y Senedd, etholiadau a fi

16.00

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Gymraeg

 

Hyfforddi’r Hyfforddwr – Y Senedd, etholiadau a fi
17.00
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

 

Ar y cyd â’r Comisiwn Etholiadol, mae’r sesiynau yma ar gyfer pobl sydd yn gweithio’n agos â phobl Ifanc er mwyn dysgu mwy am yr etholiadau a’r Senedd, a sut i ennyn diddordeb pobl Ifanc.

Dydd Mawrth

23 Chwefror

Etholiad y Senedd- Dy Bleidlais Gyntaf
8.50

Cyflwyniad 20 munud byw sy’n addas ar gyfer gwasanaethau ysgol boreol. Canolbwyntio ar etholiadau’r Senedd a Pleidlais 16.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Gymraeg

 

Y Senedd, etholiadau a fi
18.00
Gweithdai rhyngweithiol i grwpiau ieuenctid. Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd ar gyfer gweithdy am rôl a phwerau’r Senedd, a sut i bleidleisio.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

 

Dydd Mercher

24 Chwefror

Cyfarfod Senedd Ieuenctid Cymru ar y cyd â Senedd Cymru

12.45

Dyma fydd cyfarfod olaf y Senedd Ieuenctid ar ddiwedd ei dymor dwy flynedd. Mi fydd y cyfarfod yma ar y cyd a Senedd Cymru yn gyfle i gloriannu gwaith y Senedd Ieuenctid ac i asesu ymateb Llywodraeth Cymru i’w gwaith.

 

Y Senedd, etholiadau a fi
18.00

Gweithdai rhyngweithiol i grwpiau ieuenctid. Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd ar gyfer gweithdy am rôl a phwerau’r Senedd, a sut i bleidleisio.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Gymraeg

 

Dydd Iau

24 Chwefror

Etholiad y Senedd- Dy Bleidlais Gyntaf
8.50
Cyflwyniad 20 munud byw sy’n addas ar gyfer gwasanaethau ysgol boreol. Canolbwyntio ar etholiadau’r Senedd a Pleidlais 16
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

 

Dydd Gwener

25 Chwefror

Dewch i Ddadlau : Ffug Etholiad i Bobl Ifanc’
17.00

Mi fydd cyfle i grwpiau o bobl Ifanc i ffurfio pleidiau, cynhyrchu maniffesto a chyflwyno polisïau er mwyn ceisio ennill pleidlais y gynulleidfa. Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Teleri Glyn Jones sy’n cadeirio.

Digwyddiad dwyieithog