Mae gan Bwyllgor Cyllid y Senedd bryderon difrifol ynghylch a fydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn diogelu gwasanaethau rheng flaen.
Er bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, sef 'Cyllideb i Ddiogelu’r Gwasanaethau sydd Bwysicaf i Chi’, yn ceisio rhoi sicrwydd i bobl y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu, mae’r Pwyllgor Cyllid o’r farn, ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, na fydd y Gyllideb hon yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.
“'A fydd hyn yn gallu diogelu gwasanaethau?' ... yr ateb yw, 'Na fydd.'” Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
A fydd y cyllid a ddarperir yn diogelu gwasanaethau?
Mae adroddiad y Pwyllgor yn dadansoddi cynlluniau gwariant a threthiant arfaethedig y Llywodraeth, ac yn dod i’r casgliad nad yw’n debygol y bydd y cyllid a gaiff ei ddyrannu i awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol yn ddigon i gadw gwasanaethau ar lefel dderbyniol.
Fel rhan o’r cynlluniau gwariant, dyrennir mwy o arian i’r GIG ac i Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn pryderu nad oes unrhyw gynllun ar waith i fonitro effaith y gwariant ychwanegol hwn. Er bod y pryder hwn yn fater hirdymor i’r Pwyllgor, mae o’r farn ei fod yn bwysicach fyth eleni, yn sgil y cyfyngiadau ariannol presennol.
Pryder arall i’r Pwyllgor yw’r cynnydd arfaethedig a welir mewn gwariant ar gyfer y GIG, heb gynnydd cyfatebol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r arian ychwanegol hwn. Serch hynny, gallai’r galw cynyddol ar ofal cymdeithasol mewn sefyllfa lle nad oes rhagor o gyllid ar gael arwain at bwysau canlyniadol i’r GIG.
…mae aelwydydd wedi wynebu gaeaf anodd iawn, yn enwedig aelwydydd incwm isel, heb y math o gymorth a oedd ar gael mewn blynyddoedd blaenorol, er y gellir dadlau bod yr amgylchiadau’n fwy anodd… Sefydliad Bevan |
Effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed
Yn ôl y Pwyllgor, ymddengys fod ffocws Llywodraeth Cymru ar wasanaethau rheng flaen wedi dod ar draul mesurau hirdymor i leihau tlodi.
Nid yw'r Pwyllgor wedi'i argyhoeddi ynghylch yr esboniadau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei phenderfyniadau ar brydau ysgol am ddim a gofal plant.
Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn egluro mai cost gymharol fach fyddai’n gysylltiedig ag ymestyn y meini prawf cymhwystra ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i blant y mae eu rhieni’n cael Credyd Cynhwysol.
Mae’r Pwyllgor yn dadlau bod darparu prydau maethlon i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn rhan bwysig o fynd i’r afael â phroblemau tlodi hirdymor, ac mae’n galw ar y Gweinidog i edrych eto i weld a ellid ymestyn y cynllun.
Mae toriad o £11 miliwn i ddarpariaeth gofal plant hefyd yn destun pryder. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau mai’r rheswm am y toriad hwn yw diffyg galw am y cynllun presennol. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor fod dyluniad y cynllun a’r modd y mae’n cael ei weithredu, o bosibl, yn atal rhieni rhag cael mynediad iddo.
Mae’r cynnig presennol o 30 awr yn unig o ofal plant am ddim yn golygu nad yw’r rhai sy’n dymuno gweithio’n llawn amser yn gallu elwa’n llawn arno. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd y cynllun presennol ac i sicrhau bod y system gofal plant yn galluogi ac yn annog rhieni i weithio'n llawn amser.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu, ond rydym yn pryderu am ei honiadau y bydd y Gyllideb hon yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.
“Nid yn unig y mae’r Gyllideb hon yn annhebygol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, nid ydym ychwaith yn gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur effaith yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i’r GIG ac i Trafnidiaeth Cymru.
“Mae’r penderfyniad i beidio ag ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim a’r penderfyniad i dorri gwariant ar ofal plant hefyd yn destun pryder ac yn bethau a fydd yn cael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniadau hyn.”
Pryderon ar draws y Pwyllgorau
Un o brif flaenoriaethau y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd deall effaith y bwlch ariannu £646 miliwn a welir yn y dyraniad ar gyfer gwasanaethau gofal awdurdodau lleol dros y tair blynedd nesaf. Mae chwyddiant, ffioedd cynyddol a galw cynyddol yn rhoi straen enfawr ar y sector gofal cymdeithasol, ac mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau fod pawb sy’n gymwys i gael cymorth yn ei dderbyn.
Mae’r targed i leihau amseroedd aros cleifion allanol i lai na 52 wythnos wedi’i fethu, yn ogystal â’r targed i ddileu nifer y bobl sy’n aros yn hwy na dwy flynedd i ddechrau eu triniaeth. Nid oes unrhyw arwydd ynghylch pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl i’r targedau hyn gael eu cyflawni. Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i nodi pryd y bydd y GIG yn cyflawni’r targedau hyn.
Rhoddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig rybudd am effeithiau cronnol ac annisgwyl toriadau i gyllidebau ffermio a chymorth busnes. Gallai pob math o ostyngiadau effeithio ar ffermwyr sy'n allforio cig ac yn gwerthu eu cynnyrch i fusnesau lletygarwch lleol. Gallai'r rhain gynnwys gostyngiadau mewn cymorth amaethyddol, cymorth busnes a chymorth allforio o ran eu gwerthiannau rhyngwladol, yn ogystal â gostyngiad yn y cymorth lletygarwch a ddarperir ar gyfer eu gwerthiannau domestig.
Yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel y bydd yn lansio ymgynghoriad ffurfiol mewn perthynas â’i gynllun i dorri hyd at 2,800 o swyddi, a’r newyddion bod cyfres o fusnesau proffil uchel eraill wedi cau dros y misoedd diwethaf, mae Pwyllgor yr economi yn pryderu am gymorth i weithwyr a allai golli eu swyddi. Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gyllid yn cael ei ddyrannu i raglenni cymorth dileu swyddi, a sicrhau ei bod yn barod i ehangu’r rhaglenni hyn os oes angen.
Mae Pwyllgor yr Economi a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro effaith ei phenderfyniadau gwariant drwy gydol y flwyddyn. Rhybuddiodd y Pwyllgor fod monitro yn ystod y flwyddyn yn hanfodol o ran asesu’r hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae angen ei ail-flaenoriaethu.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol dorri cyllidebau addysg er mwyn talu costau’r cytundeb ar gyflogau athrawon.
Roedd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a Phwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn bryderus â pheth o’r dystiolaeth a ddarparwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru.
Nid oedd gan y Pwyllgor Diwylliant hyder yn y wybodaeth a gafodd gan y Prif Weinidog yn sgil sawl anghysondeb, a galwodd arno i ddarparu gwybodaeth fanylach ac i roi tystiolaeth lafar yn y dyfodol.
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hefyd yn siomedig i nodi nifer o wallau yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd y Pwyllgor rybudd hefyd am y gwariant cynyddol sydd wedi’i ymrwymo i Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn dod ar draul gwariant ar fioamrywiaeth, rheoli perygl llifogydd a dŵr, a gwastraff.
Mae'r Pwyllgor yn pryderu y bydd Rhaglen Cartrefi Clyd newydd Llywodraeth Cymru yn debygol o ddatgarboneiddio llai o gartrefi nag yn y blynyddoedd blaenorol, gan fod dyraniadau’r gyllideb yn aros yr un peth tra bod y costau sy’n gysylltiedig â thechnolegau carbon isel wedi cynyddu.
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn pryderu am y nifer digynsail o bobl sy’n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu’r Grant Cymorth Tai er mwyn sicrhau ei fod yn cynyddu mor gyflym â chwyddiant, mae’r Pwyllgor yn rhybuddio y gallai mwy o bobl fod yn wynebu’r perygl o ddigartrefedd os nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid ychwanegol hwn.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn pryderu bod y cyllid a ddyrennir ar gyfer cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol yn wynebu rhai o'r gostyngiadau mwyaf mewn unrhyw faes gwariant. Er bod aelodau’r Pwyllgor yn dawel eu meddwl y bydd ymrwymiadau presennol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni, maent yn pryderu y bydd gwariant ar y Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei gwtogi. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro beth fydd hyn yn ei olygu, ac i gyhoeddi manylion ynghylch y gostyngiad yn y gyllideb.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS: “Rydym wedi cael ein siomi’n arw gan agwedd Llywodraeth Cymru at y Gyllideb Ddrafft eleni. Bu diffyg amser i graffu ar effeithiau rhai o benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar y rhai sy’n wynebu’r effaith fwyaf, gan gynnwys ei chyhoeddiad y bydd yn torri rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau lletygarwch, manwerthu a hamdden. Mae hyn wedi rhwystro ein gallu i ymgysylltu â’r diwydiannau hyn er mwyn canfod beth fydd y toriad hwn yn ei olygu i fusnesau ledled Cymru.
“Nid mater i’r Pwyllgor Cyllid yn unig yw hwn. Mae llawer o bwyllgorau eraill yr un mor bryderus ynghylch yr amserlen fer a roddwyd i’r Senedd ddadansoddi’r cynlluniau hyn, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei dull gweithredu ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau gwell atebolrwydd democrataidd.”