Dathlu pen-blwydd adeilad y Senedd wrth i Gymru baratoi ar gyfer Etholiad 2021

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2021   |   Amser darllen munudau

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn dathlu 15 mlynedd ers agor adeilad y Senedd yn swyddogol ar 1 Mawrth 2006, fel cartref eiconig ac arloesol democratiaeth yng Nghymru.

Er bod drysau'r adeilad yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd oherwydd y risgiau ynghlwm â COVID-19, mae'r pen-blwydd yn rhoi cyfle i ni gofio sut y daeth yr adeilad i fodolaeth gyda lluniau o’r archif a darluniau pensaernïol a gasglwyd ar gyfer oriel ar-lein ar wefan y Senedd a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae hi dal yn bosibl i ymwelwyr ryfeddu at y bensaernïaeth yn ddiogel mewn taith 360˚ sy'n caniatáu i bobl grwydro'r adeilad, gan gynnwys ardaloedd cyfyngedig fel y Siambr lle mae dadleuon yn cael eu cynnal. Mae cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a dysgu am y Senedd a'r etholiad sydd ar ddod mewn sesiynau cyflwyno ar-lein.

“Gydag Etholiad y Senedd yn nesáu, mae’n amser cyffrous i’r Senedd, gyda phwyslais ychwanegol ar gysylltu â phobl ym mhob rhan o’r wlad i addysgu, ysbrydoli a phwysleisio pwysigrwydd Defnyddio eu Llais gyda’u pleidlais, a chofio cofrestru erbyn y dyddiad cau hollbwysig ar 19 Ebrill,” dywed Richard Gwyn Jones o dîm ymwelwyr y Senedd sydd wedi tywys grwpiau o bedwar ban byd ers i’r adeilad agor.

“Y Senedd yw un o'r adeiladau enwocaf yng Nghymru – mae’n eiconig ac yn uchel ei barch ledled y byd. Er na allwn groesawu ymwelwyr drwy'r drysau 15 mlynedd yn union ar ôl eu hagor am y tro cyntaf, rydym yn falch o gadw'r adeilad ar agor yn ddiogel i bobl ledled y byd gyda'n taith 360 rithwir, sesiynau ar-lein ac arddangosfeydd. Gallwn barhau i roi cyfle i bobl ddod i adnabod eu Senedd o unrhyw le yng Nghymru.”

Ymgollwch mewn taith 360˚

 Yn y daith 360⁰ o’r Senedd, gall pobl gwrdd â’r tywyswyr, gweld arddangosfeydd a rhyfeddu at ddyluniad eiconig yr adeilad. Wrth symud o amgylch yr adeilad, a chyfarwyddo'r daith trwy glicio ar y sgrin, bydd pobl yn dod o hyd i lincs, lluniau a fideos i ddysgu mwy am hanes a phwrpas y Senedd. Ac, os oes ganddynt yr offer priodol, gallant hyd yn oed brofi’r daith ar ffurf Realiti Rhithwir.

 

Gan lywio o amgylch y Senedd, mae'r daith yn mynd â phobl y tu ôl i'r llenni i ardaloedd cyfyngedig nad yw ymwelwyr fel arfer yn mynd iddynt am resymau diogelwch – gan gynnwys y Siambr sydd wrth wraidd dyluniad a phwrpas yr adeilad.

Yma gall yr ymwelwyr rhithwir weld dyluniad unigryw'r Siambr gylchol a'r twndis nodedig sy'n llenwi’r gwagle o dan y ddaear â golau naturiol sydd wedi'i adlewyrchu o'r to. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae gwaith celf Calon Cymru yng nghanol y Siambr gan yr artist Alexander Beleschenko o Abertawe a gomisiynwyd yn arbennig, a cherfluniau mapiau o Gymru cwbl unigryw a dresel draddodiadol ddur a grëwyd gan y gof a'r artist enwog Angharad Pearce Jones.

Sesiynau ymgysylltu ar-lein

Mae cyflwyniadau a gweithdai ar-lein rhad ac am ddim, yn Gymraeg a Saesneg, hefyd ar gael yn wythnosol i ddysgu am y Senedd, sut mae'n gweithio a'i heffaith ar fywydau pobl yng Nghymru.

Mae sesiwn a ychwanegwyd yn ddiweddar yn canolbwyntio ar Etholiadau’r Senedd 2021, gan bwysleisio gwerth Defnyddio dy Lais a chofio cofrestru erbyn 19 Ebrill. Mae’r holl wybodaeth am bleidleisio a’r etholiadau, a sut i fynd i’r sesiynau cyflwyno, ar gael ar wefan Etholiadau’r Senedd.

15 mlynedd o gartref democratiaeth Cymru sydd wedi ennill gwobrau 

Wedi'i ddylunio gan Rogers Stirk Harbour + Partners, agorwyd yr adeilad gan y Frenhines ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Y Senedd oedd yr adeilad cyntaf yng Nghymru i sicrhau sgôr ragorol BREEAM. Ers hynny mae'r adeilad wedi ennill nifer o wobrau pensaernïaeth a chynaliadwyedd am ei nodweddion ecogyfeillgar, gan gynnwys: Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig 2007; Gwobr Ryngwladol Athenaeum Chicago 2007; Gwobr Genedlaethol RIBA 2006; Rhestr fer Gwobr Stirling RIBA am Adeilad y Flwyddyn 2006.

Mae'r adeilad yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau o Gymru fel llechi o chwarel Cwt-y-Bugail ger Blaenau Ffestiniog, coed derw o Sir Benfro a dur o weithfeydd TATA ym Mhort Talbot. Mae hefyd yn ymgorffori, ar ffurf gorfforol, y gwerthoedd sy'n sail i'r Senedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, tryloywder, a natur agored democratiaeth.

Mae cynaliadwyedd hefyd yn rhan bwysig o'r adeilad, gydag ynni cynaliadwy yn pwmpio gwres o'r ddaear, dŵr glaw yn cael ei gasglu i'w ailgylchu mewn toiledau, dyfrhau a chynnal a chadw, a system awyru sy'n caniatáu llif naturiol o awyr iach.

Dewch i gael gwybod mwy am yr adeilad ar wefan y Senedd.