Diffygion ym mhrosesau Llywodraeth Cymru yn arwain at wastraffu mwy na £1 miliwn ar westy gwag – yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 04/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Diffygion ym mhrosesau Llywodraeth Cymru yn arwain at wastraffu mwy na £1 miliwn ar westy gwag – yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

4 Mehefin 2013

Arweiniodd diffygion yn systemau a phrosesau Llywodraeth Cymru at wastraffu mwy na £1 miliwn o arian cyhoeddus ar brynu gwesty adfeiliedig yn y Gogledd, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nad oedd gweinidogion olynol, ar y cyfan, yn ymwybodol o'r cynllun i brynu Gwesty River Lodge yn Llangollen am £1.6 miliwn ac i'w brydlesu i fenter gymdeithasol er mwyn creu canolfan hyfforddi crefftau ymladd ac encilfa ysbrydol.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cynnig i brynu'r adeiladau adfeiliedig yn 2007 wedi'i wneud cyn i'r broses brisio gael ei chwblhau ac nad oedd y pris a dalwyd yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod y penderfyniad i brynu'r gwesty wedi ei wneud, yn rhannol, i ddefnyddio arian dros ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwas sifil a awgrymodd y gwesty fel cyfle prynu posibl hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol ar y sefydliad a oedd am ei brydlesu. Felly, roedd gwrthdaro buddiannau.

Mae hefyd yn nodi bod rheolwyr llinell y gwas sifil yn ymwybodol o'r sefyllfa ac na chymerwyd unrhyw gamau, ac felly bod methiant o ran proses.

Mae'r Pwyllgor wedi codi pryderon nad oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am yr adran ar y pryd, y cyn-Aelod Cynulliad, Andrew Davies, wedi cael ei friffio'n glir ar y prosiect. Mae hefyd wedi codi pryderon na ddywedwyd wrth ei olynydd, Ieuan Wyn Jones AC, am hanes y prosiect pan ddaeth i'r swydd ac nad oedd yn cael gweld papurau briffio ei ragflaenydd oherwydd ei fod yn aelod o blaid wleidyddol wahanol.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Mae'r ymchwiliad hwn i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu Gwesty River Lodge wedi bod yn un o'r rhai mwyaf dadlennol a gynhaliwyd erioed gan y Pwyllgor, ac mae wedi achosi cryn bryder iddo.

"Mae'r ffaith bod dros £1 miliwn o arian cyhoeddus wedi cael ei wastraffu yn sgîl y gwahanol benderfyniadau a wnaed yn ystod y prosiect cythryblus hwn yn destun digon o bryder ynddo'i hun.

"Ond yr hyn sydd wedi'n gadael yn anesmwyth iawn yw'r diffygion yn systemau a phrosesau'r gwasanaeth sifil y mae'r ymchwiliad hwn wedi'u hamlygu, ac sy'n dod i'r amlwg yn ein hymchwiliad ehangach i reoli grantiau Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio nifer o'i threfniadau llywodraethu a'i phrosesau rheoli. Fodd bynnag, nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi y byddai prosesau diwygiedig Llywodraeth Cymru o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwahanol yn y dyfodol.

"O ganlyniad i drosiant staff uchel, gweinidogion o bosibl yn methu â chael gweld papurau rhagflaenwyr a threfniadau trosglwyddo cyfyngedig rhwng gweinidogion, mae gan Lywodraeth Cymru gof pysgodyn aur."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 21 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’i phrosesau i leihau’r risg bod rhuthr i wario arian cyn diwedd blwyddyn ariannol yn llesteirio ymdrechion i sicrhau gwerth am arian;

  • Bod gweision sifil Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Gweinidogion yn cael eu briffio’n llawn wrth iddynt ddod i’w swydd ar bob agwedd o’u portffolio newydd, yn cynnwys gohebiaeth sydd ar y gweill a gohebiaeth nad yw wedi’i chwblhau; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’i systemau i ymdrin â gohebiaeth Weinidogol, fel nad yw’r sawl y gwneir cwyn amdano na’i reolwr llinell yn ymateb i bryderon ynglyn â gwrthdaro buddiannau (neu ymddygiad swyddog).

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Linc i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.

Mae'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn adroddiad a luniwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sydd i'w weld yma.