​​Disgyblion o Ysgol Gyfun y Cymer, y Rhondda yn mwynhau ymweliad â’r Senedd

Cyhoeddwyd 28/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

Mwynhaodd disgyblion o Ysgol Gyfun y Cymer, y Rhondda ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd yr wythnos hon, fel rhan o'u cwrs Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Croesawodd Leighton Andrews, eu Haelod lleol, y disgyblion i'r Senedd cyn eu taith o amgylch y Neuadd, yr Oriel, yr Oriel bwyllgorau ac Oriel y Siambr, i ddysgu rhagor am weithrediadau'r Cynulliad a sut y mae'r penderfyniadau a wneir yno yn effeithio ar eu bywydau hwy.

Dywedodd Courtney Ryall, sy'n ddisgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun y Cymer:

"Dysgais lawer yn sgîl y daith, yn bennaf oherwydd bod y Tywysydd yn sgwrsio ar ein lefel ni. Roedd yn wych i weld lle y caiff y penderfyniadau pwysig yng Nghymru eu gwneud, gyda'r cyfan yn cael ei egluro mewn ffordd mor syml. Mae'r Tywysydd yn amlwg wrth ei fodd yn ei swydd, ac roedd hynny'n sicrhau ein bod ni'n mwynhau hefyd."

Dywedodd Catrin Williams, sy'n athrawes yn Ysgol Gyfun y Cymer:

"Mae bob amser yn bleser dod i'r Senedd, oherwydd mae'r staff yn hynod o groesawgar a gwybodus. Hoffwn ddiolch i'r tywysydd am ein harwain ar ymweliad gwych unwaith eto. Rydym eisoes yn cynllunio ymweliad y flwyddyn nesaf!"

Dywedodd Leighton Andrews, yr Aelod Cynulliad lleol:

"Roedd yn bleser gweld y bobl ifanc yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth yma yn y Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at gael ymweld â'r ysgol yn ddiweddarach eleni"

Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn archebu ymweliad grŵp â'r Senedd dylech ffonio 0300 200 6565.