Mae angen Gweinidog Masnach a Chysylltiadau Rhyngwladol newydd er mwyn gwerthu Cymru i'r byd

Cyhoeddwyd 27/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2018

Mae angen i Gymru gael Gweinidog Masnach a Chysylltiadau Rhyngwladol newydd er mwyn gwerthu Cymru i'r byd, yn ôl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth hefyd i'r casgliad bod angen pwrpas cliriach a meini prawf llwyddiant y gellir eu mesur ar gyfer 16 swyddfa dramor Llywodraeth Cymru.

 

Canfu'r Pwyllgor fod pocedi o arfer da ac arloesedd ar draws gwahanol adrannau'r llywodraeth yn ystod ei ymchwiliad, a oedd yn canolbwyntio ar dri sector allweddol, sef twristiaeth, masnach a mewnfuddsoddi ac addysg.

Fodd bynnag, roedd yr arfer da yn ysbeidiol iawn ac nid oedd digon yn cael ei wneud i ddod â'r elfennau hynny at ei gilydd i gael dull mwy cydlynol o werthu Cymru i'r byd.

Mae 16 o swyddi rhyngwladol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pump yn yr Unol Daleithiau a thri yn Tsieina, yn gyfrifol am fasnachu a buddsoddi, cysylltiadau'r llywodraeth, twristiaeth, diwylliant ac addysg.

Canfu'r Pwyllgor fod busnesau o Gymru sy'n chwilio am gyfleoedd tramor naill ai'n aneglur ynghylch y rolau hynny neu nad oeddent yn gwybod amdanynt. Yn ôl y Pwyllgor, dylai pob swyddog tramor fod â chylch gwaith a chynllun perfformiad clir.

Mae hefyd wedi galw eto ar i Doll Teithwyr Awyr (APD) gael ei ddatganoli i Gymru, fel y mae yn yr Alban, ar ôl clywed tystiolaeth ei fod yn atal twf yn y sector twristiaeth yn ogystal  â rhagolygon cyflogaeth tra'n rhwystro gallu maes awyr Caerdydd i ymestyn.

"Mae Cymru'n wlad fach mewn byd mawr. Ond nawr, yn fwy nag erioed, mae angen inni ymestyn allan a datblygu'r cysylltiadau a fydd yn ein helpu i ffynnu a thyfu," meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Gyda Brexit yn agosáu, mae cydnabyddiaeth gyffredinol y bydd heriau a chyfleoedd o'n blaenau, wrth i ni ailnegodi ein perthynas â'n cymdogion yn Ewrop ac wrth inni edrych y tu hwnt i'r ffiniau hynny i feithrin cysylltiadau newydd â marchnadoedd sy'n amlygu neu'n ehangu.

"Mae'n amlwg i'r Pwyllgor fod rhagor y gellir ei wneud i werthu Cymru i'r byd mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig.

"Dylai rolau a chylch gwaith y swyddfeydd tramor fod yn glir ac, yn bwysicach fyth, dylai Prif Weinidog nesaf Cymru ystyried o ddifrif creu swydd benodol yn y cabinet i gyfuno'r cyfrifoldebau am fasnach ryngwladol a gweithredu Brexit. Nawr yw'r amser i wneud hyn yn iawn."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth twf allforio i baratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol a chynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio,

  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cylch gwaith manwl ar gyfer y swyddfeydd tramor, a llunio adroddiad blynyddol i'r Cynulliad ar y modd y mae pob swyddfa yn cyflawni'r hyn sydd yn y cynllun busnes,

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i lobïo Llywodraeth y DU ar ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru."

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried yr adroddiad.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Gwerthu Cymru i'r Byd (PDF, 1 MB)