Paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb: Datganiad ar y cyd gan gadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 19/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2019

Ar ôl cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brexit heb gytundeb, mae cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a chadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi'r datganiad ar y cyd a ganlyn:

"Gyda dim ond 36 diwrnod ar ôl cyn i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth, rydym yn croesawu cyhoeddiad amserol adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar baratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit heb gytundeb. 

"Er ei bod yn amlwg bod cyrff cyhoeddus ar draws Cymru yn cymryd eu gwaith cynllunio ar gyfer dim cytundeb o ddifrif, mae'n destun pryder gennym glywed bod rhai wedi bod yn gweithredu ar sail aros-a-gweld. 

"Mae goblygiadau Brexit yn her fawr i gyrff cyhoeddus ac mae llawer o waith i'w wneud eto.  Rydym yn cefnogi negeseuon allweddol yr Archwilydd Cyffredinol i ddwysáu'r trefniadau ar gyfer Brexit heb gytundeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus. 

"Bydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mawrth a bydd yn defnyddio ei ganfyddiadau i graffu ar baratoadau Brexit Llywodraeth Cymru."

David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.