Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Ymateb i COVID-19 yn amlwg yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-2022

Cyhoeddwyd 04/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/02/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cyhoeddi ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, gan leisio pryderon difrifol am wasanaethau cyhoeddus, anghydraddoldeb ac effaith economaidd y pandemig COVID-19. Mae'r Pwyllgor yn glir bod yr angen i wella c mynd i'r afael â thlodi yn fwy hanfodol nag erioed, gyda'r pandemig yn dyfnhau'r problemau y mae aelwydydd incwm isel a difreintiedig yn eu hwynebu yn barod.

Wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gwariant, ar adeg pan mae llawer o fusnesau yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cefnogi’r galwadau am symleiddio a chydgrynhoi'r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael.

Yn ogystal â gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae pwyllgorau polisi’r Senedd wedi archwilio pob agwedd ar y gyllideb, ac wedi gwneud argymhellion.

Ansicrwydd ynghylch y gyllideb

Bu lefel digynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau ac adolygiadau gwariant Llywodraeth y DU dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd Brexit, Etholiad Cyffredinol y DU a’r pandemig COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod llunio cyllideb ddrafft sy’n seiliedig ar setliad refeniw un flwyddyn am y tair blynedd diwethaf. Y bwriad yw gosod Cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2021 - mae’r amseru’n golygu na fydd Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu cynnwys Cyllideb y DU.

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi codi pryderon yn flaenorol am yr ansicrwydd hwn a'i effaith ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw yn ariannol.

Effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r pandemig COVID-19 yn amlwg yn rhan flaenllaw o bob penderfyniad gwariant yng Nghymru ac yn y DU, ac mae'n amlwg bod y Gweinidog Cyllid yn disgwyl rhagor o gyllid ar gyfer COVID-19 gan Lywodraeth y DU. Mae'n hanfodol bod y broses o roi brechlynnau yn parhau ar gyflymder ac mae'r Pwyllgor Cyllid yn croesawu'r sicrwydd o gyllid yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer y rhaglenni brechu a Phrofi, Olrhain, Diogelu.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu am effaith y pandemig ar ofal tu hwnt i COVID, a’r pwysau parhaus ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i weithwyr gofal iechyd. Cred y Pwyllgor Cyllid hefyd yw y bydd y pandemig yn effeithio’n sylweddol ar iechyd meddwl dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cytuno na ddylid tanbrisio’r argyfwng iechyd cyhoeddus y mae Cymru yn ei wynebu, o ran ymateb i heriau uniongyrchol y pandemig a’r angen i gynnal y gwasanaethau hanfodol tu hwnt i COVID y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Mae’r Pwyllgor o’r farn na fydd gwir faint y goblygiadau ar gyfer iechyd a lles pobl yng Nghymru yn amlwg am rai blynyddoedd. Mae'r argyfwng hefyd wedi gwaethygu materion sylfaenol, gan gynnwys breuder y sector gofal cymdeithasol, yr anghydraddoldebau iechyd parhaus ledled Cymru, a'r angen am weledigaeth strategol glir i yrru integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a thrawsnewid gwasanaethau.

Parhau i fod yn ansicr fydd cwrs y pandemig dros y misoedd nesaf a bydd dewisiadau anodd i'w gwneud ynglŷn â blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Serch hynny, mae'r Pwyllgor Iechyd yn galw ar Weinidogion i fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ac ymgysylltu â phartneriaid i nodi lle y gallai fod anghenion ychwanegol a chyfleoedd i ddiwygio a gwella er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael.

Pwysau ar lywodraeth leol ac addysg

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu na fydd y cyllid cynyddol yn y setliad llywodraeth leol yn cwmpasu’r holl bwysau’n ymwneud â chostau, fel costau gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn bryderus iawn am y risgiau i blant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a'r rhai mewn addysg blynyddoedd cynnar sydd ar ei hôl hi yn eu haddysg oherwydd y pandemig. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn galw am ragor o wybodaeth am sut y bydd cyllid yn helpu dysgwyr i 'ddal i fyny' a darparu’r ffyrdd cyfredol o ddysgu ar yr un pryd.

Dywed y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod angen i hawliau plant a phobl ifanc fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer holl weinidogion Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau am gyllid i fynd i’r afael ag effaith COVID-19.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gyllid ychwanegol i ddarparu ar gyfer tâl a ddyfernir yn y sector cyhoeddus, ac eithrio’r GIG a’r rhai sydd â’r cyflogau isaf. Mae pryder hefyd y bydd y goblygiadau ar gyfer cyflogau yn 2021-22 yn sylweddol ac y bydd angen i gyllidebau cynghorau lleol eu hamsugno.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o’r farn y dylai sicrhau adnoddau digonol i ariannu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac i fynd i’r afael â digartrefedd fod yn feysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb. Mae'r ddau faes wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw oherwydd y pandemig Covid-19.

Yr economi, sgiliau ac adfywio

Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth nad yw'r Gyllideb Ddrafft yn darparu dull cydlynol o gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.

Gan gydnabod y gallai fod yn synhwyrol caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd, mae'r Pwyllgor yn pryderu y bu bylchau wrth weithredu'r pecynnau cymorth busnes, gyda busnesau llai yn ei chael hi'n fwy anodd cael gafael ar arian. Cymhlethwyd hyn ymhellach gan y gwahanol ddulliau o ddarparu cymorth i fusnesau gan wahanol lywodraethau yn y DU.

Mae'r Pwyllgor yn credu y gallai'r Gyllideb Ddrafft fod yn gliriach wrth amlinellu dull tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau posibl yn ymddygiad defnyddwyr tuag at fanwerthwyr ar-lein a'r effaith ar economïau lleol. Dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl am eu polisïau blaenorol ar adfywio canol trefi yng ngoleuni'r pandemig.

Yn ogystal â'r effeithiau a ragwelir ar gyflogaeth, gallai'r argyfwng newid yr economi yn barhaol, gyda newidiadau sylfaenol o ran patrymau gwaith, ymddygiadau a'r farchnad lafur. Mae'r Pwyllgor Cyllid o'r farn bod buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd yn hanfodol ar gyfer adferiad Cymru ar ôl y pandemig.

Mae cysylltedd digidol hefyd wedi dod yn fwyfwy hanfodol, gan alluogi ffyrdd newydd o weithio yn ystod y pandemig – mae'r Pwyllgor Cyllid yn galw am wneud mwy i sicrhau bod pawb yn cael yr un mynediad ledled Cymru a hyfforddiant sgiliau digidol i fusnesau ac unigolion.

Ychwanegodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei fod yn pryderu bod nifer y busnesau sydd wedi manteisio ar gymorth busnes sy’n ‘benodol i sectorau’ wedi bod yn is na'r disgwyl.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi pa werthusiad a wnaed o effeithiolrwydd gwefan a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru, er mwyn nodi unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i helpu busnesau i ddeall yr holl fathau o gymorth sydd ar gael.

Fodd bynnag, gyda llawer o fusnesau yn cael cymorth, mae'r Pwyllgor yn galw am 'gynllun ymadael' COVID-19 ar gyfer economi Cymru pan ddaw'r cyllid i ben.



“Mae angen cymorth ar ein busnesau yn fwy nag erioed, gyda llawer yn cael eu gorfodi i gau. Er mwyn sicrhau dyfodol iddynt ar ôl y pandemig, rydym yn cefnogi’r galwadau am symleiddio a chydgrynhoi’r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael."

Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid


Newid hinsawdd a datgarboneiddio

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn pryderu nad yw’r cynlluniau i fynd i'r afael â newid hinsawdd a datgarboneiddio yn glir, nac ychwaith sut mae gweithredu ar newid hinsawdd a datgarboneiddio yn cael ei brif ffrydio ym mhroses y gyllideb. Mae angen gwneud mwy o waith i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio ac adeiladu economi wyrddach mewn amgylchedd ar ôl y pandemig.

Yn ei broses graffu, clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gonsensws cyffredinol bod yr adferiad ar ôl y pandemig yn rhoi cyfle i fynd i'r afael ag argyfyngau sylfaenol yn ymwneud â’r hinsawdd a natur. Mae’r Pwyllgor o’r farn nad oes saib i newid hinsawdd a dirywiad natur. Mae'r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 yn dod i’r casgliad nad yw Cymru wedi bodloni unrhyw un o’r pedwar nod ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Rhagwelir y bydd rhywogaethau eiconig yn diflannu o fewn degawdau ac mae gwydnwch ecosystemau yn dirywio yn unol â thueddiadau byd-eang.

Mae'r Pwyllgor eisiau gweld tystiolaeth glir o benderfyniadau gwariant sy'n cefnogi adferiad gwyrdd, ac sy'n adlewyrchu brys yr argyfyngau hinsawdd a natur yn well. Er y bu cynnydd yn y dyraniad mewn rhai meysydd, nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod lefel gyffredinol y buddsoddiad yn ddigonol i ysgogi newid.

Dyfodol y Sector Ddiwylliannol

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn dweud fod angen i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, gadarnhau faint o gyllid fydd ar gael i gefnogi unigolion a sefydliadau’r sector ddiwylliannol ar ôl mis Mawrth 2021.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Weinidogion i esbonio’r meini prawf a fydd yn sail i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu gweithgareddau fel perfformiadau theatr a cherddoriaeth fyw er mwyn i'r sector allu cynllunio.

Brexit a’r UE - trefniadau pontio

Daw'r Gyllideb Ddrafft hon hefyd tra bod y DU yn y broses o ymadael â’r UE. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi datgan yn rheolaidd ei bryderon ynghylch y diffyg eglurder a thryloywder o ran 'Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU' yn y dyfodol sy'n disodli cyllid yr UE.

Parhau mae’r pryderon hyn.

Mae’r dystiolaeth wedi tynnu sylw at y ffaith bod llawer o sefydliadau'n rhannu'r pryderon hyn. Mae'r Pwyllgor yn siomedig nad yw manylion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cael eu cadarnhau erbyn hyn, ac mae’n galw am fwy o frys.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Dyma Gyllideb Ddrafft olaf y Pumed Senedd. Eleni mae’r pandemig wedi arwain at oedi digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig, sydd wedi arwain at oedi cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi lleihau ein hamser i graffu, sy’n peri pryder arbennig o ystyried y bydd COVID-19 yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.

“Fersiwn ddrafft yn sicr yw’r Gyllideb Ddrafft hon. Mae diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol, gyda setliad cyllid refeniw am flwyddyn yn unig, a gydag amseru Cyllideb Llywodraeth y DU wedi’i osod yn ddiweddarach ar gyfer 3 Mawrth, wedi gwneud y gwaith o osod y gyllideb hyd yn oed yn fwy heriol i Lywodraeth Cymru.

“Mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar y pandemig COVID-19. Er ein bod yn croesawu’r arian ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae’r Pwyllgor yn pryderu am effeithiau tymor hir y pandemig ar ofal nad yw’n ymwneud â COVID. Hefyd, mae gennym bryderon difrifol ynghylch capasiti ac iechyd meddwl y gweithlu.

“Mae angen cymorth ar ein busnesau yn fwy nag erioed, gyda llawer yn cael eu gorfodi i gau. Er mwyn sicrhau dyfodol iddynt ar ôl y pandemig, rydym yn cefnogi’r galwadau am symleiddio a chydgrynhoi’r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael.

“Mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19 a byddwn yn teimlo’r effeithiau ariannol ar iechyd, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod. Er bod angen ymateb i'r sefyllfa sydd ohoni, rydym yn obeithiol y bydd cyfle i gynllunio ar gyfer y tymor hwy i sicrhau adferiad Cymru."