​Ymchwiliad i Lobïo - Ymgynghoriad

Cyhoeddwyd 06/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2016


Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch lobïo Aelodau Cynulliad.

Bwriad ymchwiliad y Pwyllgor yw penderfynu a ydyw’n glir beth y mae’r dinesydd am ei wybod o ran lobïo ac, os ydyw, a yw’r trefniadau yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu digon o wybodaeth, hygyrchedd a thryloywder?

At hynny, bydd y Pwyllgor yn asesu a yw trefniadau presennol y Cynulliad o ran lobïo yn ddigon cadarn ac addas i'r diben ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Bydd y cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu gofyn fel rhan o'i ymchwiliad yn cynnwys:

  • Beth mae'r term 'lobïo' yn ei olygu i chi?
  • Sut mae lobïo'n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd?
  • A ydych yn ystyried eich hun yn lobïwr? Sut mae lobïo'n cael ei reoleiddio yn eich sector chi ar hyn o bryd? Hynny yw, os ydych yn fusnes preifat, yn gweithio yn y trydydd sector neu'n sefydliad proffesiynol; ac
  • A ydych wedi cael unrhyw broblemau â'r trefniadau presennol?

Yn ôl Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, "Mae rhai yn gweld lobïo yn gelfyddyd astrus, sef rhywbeth y mae pobl a'u bryd ar sicrhau mantais fasnachol yn ei wneud y tu ôl i ddrysau caeedig ac mewn corneli tawel".

"Ond mae lobïo hefyd yn rhywbeth a wneir gan elusennau, sefydliadau gwirfoddol a'r cyhoedd mewn perthynas â phryderon gwirioneddol neu lle maent yn credu y gall newidiadau yn y maes a’r maes wella pethau i Gymru.

"Felly, mae cael cydbwysedd o ran cael digon o wybodaeth, hygyrchedd a thryloywder yn hanfodol, gan y dylai pobl deimlo'n hollol gyfforddus y gallant gysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig heb bryderu ynghylch a ydynt o dan ddylanwad gormodol.

"Hyd yn hyn, nid yw'r Pwyllgor hwn, na'i ragflaenydd, wedi derbyn yr un gŵyn ffurfiol yn ymwneud â lobïo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ond fe ddylem fod yn wyliadwrus, gofyn cwestiynau beirniadol a sicrhau bod Aelodau etholedig yn gwbl ddi-fai ynghylch materion o'r fath."

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i lobïo fynd i dudalen ymgynghoriad y Pwyllgor am ragor o wybodaeth, neu anfen neges e-bost at SeneddSafonau@Cynulliad.Cymru.