Pwy sy'n penderfynu dros Gymru?

Cyhoeddwyd 02/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Beth yw datganoli?

Mae gan dair o bedair rhan y Deyrnas Unedig—Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon—eu deddfwrfeydd datganoledig eu hunain (naill ai seneddau neu gynulliadau) a llywodraethau. Mae pwerau a chyfrifoldebau yng Nghymru wedi’u dosbarthu dros dair lefel : Senedd a Llywodraeth Cymru ar lefel Cymru; Senedd y DU a Llywodraeth y DU ar lefel y DU; a chynghorau (Awdurdodau Lleol) ar lefel leol.

Datganoli yw’r broses o drosglwyddo pwerau o lefel y DU i lefel Cymru neu leol. Mae'r broses hon o ddosbarthu pwerau wedi esblygu dros amser, ac mae'n newid o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan a Chymru.

Mae datganoli yn y DU yn broses barhaus ac anghymesur. Rhoddwyd pwerau gwahanol i'r deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wahanol adegau. Mae Lloegr wedi gweithredu dull gwahanol hefyd o ran datganoli, gan gynnwys sefydlu meiri rhanbarthol, dinas a metro ac awdurdodau cyfun.

I weld trosolwg o hanes datganoli yng Nghymru, ewch i’r dudalen Hanes Datganoli.

Penderfyniadau a wneir yng Nghymru – penderfyniadau ar lefel genedlaethol

Y Senedd

Mae’r Senedd yn arfer tair prif swyddogaeth:

1. Deddfu ar gyfer Cymru

Mae'r Senedd yn gyfrifol am basio deddfwriaeth (neu Ddeddfau) sylfaenol sy'n berthnasol i Gymru. Gall wneud hynny mewn unrhyw faes nad yw wedi'i gadw'n ôl yn benodol gan San Steffan (gweler adran y DU, isod). Mae hyn yn golygu y gall y Senedd ddeddfu yn y rhan fwyaf o feysydd polisi domestig, er enghraifft iechyd, addysg, diwylliant ac eraill. Fel rheol, mae'r deddfau hyn yn rhoi pwerau i gyrff eraill o Gymru, neu'n gosod gofynion arnynt, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r GIG.

2. Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

Mae’r Senedd wedi sefydlu nifer o bwyllgorau trawsbleidiol sy'n archwilio polisïau a deddfwriaeth arfaethedig y Llywodraeth. Gall pwyllgorau hefyd gynnal eu hymchwiliadau eu hunain i bynciau sy'n effeithio ar Gymru, a hyd yn oed gynnig eu deddfwriaeth eu hunain. Mae'r Senedd hefyd yn cwrdd yn y Cyfarfod Llawn, sef cyfarfod o'r holl Aelodau, a’r prif fforwm ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae’r Aelodau’n gwneud hynny drwy gyflwyno cwestiynau i'r Gweinidogion, cynnal dadleuon a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru.

3. Cytuno ar drethi datganoledig

Rhaid i'r Senedd gymeradwyo unrhyw newidiadau i drethi datganoledig, yn ogystal â chytuno ar gyfraddau treth incwm Cymru. Mae treth tirlenwi a threth trafodiadau tir yn drethi datganoledig, ynghyd â’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Gellir creu trethi datganoledig newydd hefyd, ond mae angen caniatâd Senedd y DU arnynt. Er mai treth y DU ydyw, mae cyfraddau’r dreth incwm yn cael eu pennu’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn San Steffan.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisi ac yn cynnig cyfreithiau yn y meysydd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt. Rhoddir y pwerau hyn i Weinidogion Cymru drwy basio deddfau yn y Senedd a Senedd y DU, ac maent wedi'u cynnwys mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth. Er nad oes rhestr gynhwysfawr, maent yn cyfateb yn fras i'r meysydd y mae gan y Senedd gyfrifoldeb deddfwriaethol amdanynt.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig y gyllideb flynyddol, sef yr hyn sy'n cael ei wario yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu’r cyfraddau ar gyfer y trethi datganoledig a chyfradd treth incwm Cymru, ac yna mae'n rhaid i'r Senedd eu cymeradwyo.

Fodd bynnag, daw'r rhan fwyaf o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru fel grant bloc gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn rhydd i ddyrannu'r arian rhwng adrannau fel y gwêl yn dda.

Cyfrifir y swm gan ddefnyddio Fformiwla Barnett, sy'n ffordd o gyfrifo newidiadau i'r grant bloc o flwyddyn i flwyddyn, yn seiliedig ar newidiadau i ddyraniadau cyllideb adrannau yn Llywodraeth y DU. Cyfrifir faint o waith yr adran sydd wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, maint y boblogaeth yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, a’r terfyn isaf yn seiliedig ar anghenion (sydd wedi'i osod ar hyn o bryd ar 115 y cant o anghenion Lloegr).

Penderfyniadau ar lefel y DU – penderfyniadau a wneir gan y wladwriaeth

Senedd y DU

Gall Senedd y DU ddeddfu o hyd ym mhob maes sy'n ymwneud â Chymru. 

Fodd bynnag, yn ôl confensiwn, nid yw’n deddfu fel arfer ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru heb sicrhau cydsyniad y Senedd yn gyntaf, drwy fecanwaith a elwir yn Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Cafodd y confensiwn ei gydnabod yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017, er ei fod yn parhau i fod yn gonfensiwn nad yw'n gyfreithiol rwymol.

Mae’r meysydd sydd wedi'u cadw yn ôl gan Senedd y DU, ac na chaiff y Senedd deddfu mewn perthynas â nhw felly, wedi'u nodi yn Atodlenni A and 7B yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Awdurdodaeth gyfreithiol sengl Cymru a Lloegr;
  • Cysylltiadau â'r UE;
  • Amddiffyn y wlad;
  • Bancio;
  • Mewnfudo;
  • Plismona;
  • Gwerthu a chyflenwi alcohol;
  • Rheoleiddio gwyliau pecyn;
  • Swyddfeydd post;
  • Masnachu ar y Sul;
  • Cyflenwi trydan;
  • Olew a nwy;
  • Ynni niwclear;
  • Troseddau traffig ar y ffordd;
  • Hofrenfad;
  • Rheoleiddio meddygon a deintyddion;
  • Cysylltiadau diwydiannol a chyflogaeth;
  • Erthyliad;
  • Meddyginiaethau;
  • Darlledu;
  • Cymorth cyfreithiol; a
  • Carchardai.

Mae Senedd y DU, yn debyg i'r Senedd, yn deddfu ar gyfer y DU, ac yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif.

Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni rôl debyg iawn i rôl Llywodraeth Cymru, gan bennu polisi'r DU yn y meysydd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt, sy'n cyfateb yn fras, o fewn Cymru, i’r meysydd a gadwyd yn ôl gan Senedd y DU.

Oherwydd natur anghyson datganoli yn y DU, mae gan Lywodraeth y DU bwerau gwahanol ym mhob un o bedair rhan y DU.

Nid oes gan Lywodraeth y DU bwerau dros Gymru yn y rhan fwyaf o feysydd lle y mae gan Lywodraeth Cymru bwerau – mae Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl gyfrifol am y pwerau hynny.

Llywodraeth y DU sydd hefyd yn pennu, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, y rhan fwyaf o’r trethi a gesglir yng Nghymru gan gynnwys TAW, treth gorfforaeth, treth etifeddiant, treth incwm (er bod y gyfradd yn cael ei phennu’n rhannol yn genedlaethol, gweler uchod).

Penderfyniadau yn eich ardal leol – penderfyniadau a wneir yn lleol

Mae awdurdodau lleol yn darparu’r gwasanaethau statudol sy’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth, ac maent yn cael eu grymuso gan gyfreithiau a wneir ar lefel Cymru ac ar lefel y DU i ddarparu gwasanaethau eraill hefyd. Maent yn darparu rhai o'r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol, yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ac yn comisiynu eraill i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Daw'r rhan fwyaf o'u harian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Er bod y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i gyfreithiau, strategaethau a thargedau a gaiff eu nodi a'u monitro'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddisgresiwn wrth ddarparu a chyflenwi'r gwasanaethau hynny yn eu hardaloedd.

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau eang, ac mae’r cyfrifoldebau hynny wedi’u cynnwys mewn sawl darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a gaiff eu pasio gan y Senedd a Senedd y DU. 

Mae'r rhestr isod yn rhoi trosolwg (anghyflawn) o'u pwerau a'u cyfrifoldebau cyffredinol:

  • gwasanaethau cofrestru sifil (genedigaeth, marwolaeth, priodas);
  • crwneriaid;
  • amlosgi a chladdu;
  • datblygiad economaidd ac adfywio (gan gynnwys pwerau i ddarparu grantiau a chefnogi busnesau);
  • addysg (gan gynnwys darpariaeth addysg feithrin, addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg amser llawn i unigolion rhwng 16 a 19 oed, ac addysg ôl-19 oed heblaw Addysg Uwch);
  • amgylchedd (gan gynnwys iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid, llygredd sŵn a golau, baw cŵn, cerbydau wedi'u gadael, cynnal a chadw tir a pharciau, a sbwriel etc);
  • cynllunio at argyfwng;
  • gwasanaethau tân ac achub;
  • diogelwch bwyd;
  • rhai priffyrdd (o dan ddarpariaethau a amlinellir yn Neddf Priffyrdd 1980);
  • tai;
  • gweithgareddau hamdden;
  • llyfrgelloedd;
  • trwyddedu (gan gynnwys cyfrifoldeb am drwyddedu alcohol, tacsis, adloniant cyhoeddus a hapchwarae);
  • parciau cenedlaethol;
  • cynllunio;
  • gwasanaethau cymdeithasol;
  • cynllunio strategol;
  • trafnidiaeth;
  • safonau masnach; a
  • gwastraff.