Pwy yw pwy yn y Senedd?

Cyhoeddwyd 03/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2022

Mae llawer o wahanol rolau sy’n rhan o’r gwaith sy’n digwydd yn y Senedd.  Dyma olwg fanylach ar bwy yw pwy.

Y Llywydd 

Mae rôl y Llywydd yn adlewyrchu rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd.

Y Llywydd sy'n cadeirio’r Cyfarfod Llawn a Chomisiwn y Senedd, sy'n goruchwylio gwaith a swyddogaethau cymorth Senedd Cymru.

Mae hefyd yn cynrychioli buddiannau Cymru a’r Senedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Mae’r Llywydd yn Aelod o’r Senedd a chaiff ei (h)ethol i’r rôl gan yr Aelodau eraill, ar ôl etholiadau’r Senedd. Mae rôl y Llywydd yn un ddiduedd.

Dewch i gwrdd â Llywydd y Senedd

 

Y Dirprwy Lywydd 

Prif swyddogaeth y Dirprwy Lywydd yw dirprwyo ar ran y Llywydd a chadeirio’r Cyfarfod Llawn.  

Dewch i gwrdd â’r Dirprwy Lywydd 

 

Prif Weinidog Cymru

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru.

Yn y Senedd, mae’n cynrychioli Llywodraeth Cymru, yn ateb cwestiynau am bolisiau’r llywodraeth a’r penderfyniadau y mae’n eu gwneud ynghylch sut caiff gwasanaethau cyhoeddus eu rhedeg o ddydd i ddydd yng Nghymru.

Mae'r Prif Weinidog hefyd yn hyrwyddo ac yn cynrychioli Cymru mewn capasiti swyddogol.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru

 

Y Gweinidogion

Mae’r Gweinidogion yn Aelodau o’r Senedd, sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru.

Maent yn cael eu penodi gan Brif Weinidog Cymru ac maent yn gyfrifol am feysydd polisi penodol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gweinidogion yn siarad ar ran Llywodraeth Cymru yn y Senedd ac yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

 

Cwnsler Cyffredinol Cymru

Y Cwnsler Cyffredinol yw Swyddog y Gyfraith Llywodraeth Cymru. Dyma brif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru a’i chynrychiolydd yn y llysoedd.

 

Y Trefnydd

Caiff y Trefnydd ei ddisgrifio gan Lywodraeth Cymru fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am drefnu busnes y llywodraeth yn y Senedd. 

 

Arweinwyr y grwpiau gwleidyddol

Mae gan bob grŵp gwleidyddol arweinydd enwebedig sy'n holi'r Prif Weinidog yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Mae pob grŵp hefyd wedi enwebu llefarwyr sy'n cael eu galw i holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

 

Rheolwyr Busnes

Y Rheolwyr Busnes yw Aelodau o’r Senedd sydd wedi'u penodi gan eu pleidiau i roi gwybodaeth i’w Haelodau yn y Senedd a chael trefn arnynt.

 

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd 

Mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn gyfrifol am staff Comisiwn y Senedd ac am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i’r Senedd a’i Haelodau. 

Mae hefyd yn rhoi cyngor i’r Llywydd a’r Senedd o ran ei gweithdrefnau.

 

Comisiynwyr 

Corff corfforaethol y Senedd yw Comisiwn y Senedd. Y Llywydd yw cadeirydd y Comisiwn ac mae pedwar Aelod arall yn cael eu dewis gan y pleidiau gwleidyddol.

Mae pob Comisiynydd yn gyfrifol am oruchwylio meysydd penodol Comisiwn y Senedd. 

Dewch i gael gwybod mwy am Gomisiwn y Senedd