Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau. Addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6.
Addas ar gyfer: Disgyblion ysgolion cynradd (Blynyddoedd 5 & 6)
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd dysgwyr yn archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn ymgyrchydd a sut i godi eu llais mewn cymdeithas ddemocrataidd. Byddant yn ystyried ymgyrch bosibl i fynd i'r afael â mater o'u dewis. Bydd y dysgwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl mewn dadl yng Nghanolfan yr Urdd Caerdydd.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich diwrnod gyda chyflwyniad a thaith o amgylch y Senedd, yn dysgu am gwaith aelodau, cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau yng Nghanolfan yr Urdd Caerdydd.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp ar ymweliadau boreol yn unig.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm