Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau. Addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6.
Addas ar gyfer: Disgyblion ysgolion cynradd (Blynyddoedd 5 a 6)
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd y dysgwyr yn edrych ar waith Aelodau o’r Senedd trwy chwarae rôl diwrnod ym mywyd Aelod.
Bydd cyfres o heriau yn profi eu penderfyniadau a’u creadigrwydd i ddatrys problemau gwahanol faterion. Bydd y dysgwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl dadlau yn y siambr drafod wreiddiol.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith o amgylch y Senedd, cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ein canolfan addysg - Siambr Hywel.
Siambr Hywel
Bydd y disgyblion yn chwarae rôl fel Aelodau o’r Senedd ac yn trafod mater wedi’i ddewis o bynciau amrywiol, megis:
- Fy Nghymru, Fy Mhlaned
- Ffitrwydd a Lles
- Fy Mreuddwydion
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gall ysgolion hefyd ofyn i drafod pwnc o’u dewis.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm