Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau.
Addas ar gyfer: Disgyblion ysgolion cynradd
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd cynrychiolwyr Senedd neu Gyngor Ysgol yn edrych ar y tebygrwydd rhwng eu rolau a rolau Aelodau o’r Senedd (AS).
Bydd y cynrychiolwyr yn chwarae rôl gwaith Aelod o’r Senedd mewn gwahanol bwyllgorau pwnc cyn cymryd rhan mewn dadl yn y siambr drafod wreiddiol i efelychu’r Cyfarfod Llawn.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith o amgylch y Senedd, cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau yng Nghanolfan yr Urdd Caerdydd.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp ar gyfer ymweliadau boreol yn unig.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm