Addas ar gyfer: Disgyblion ysgol uwchradd
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Byddwch chi’n edrych ar waith gwahanol ymgyrchwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang ac yn cael eich grymuso i gyfrannu a herio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
Hefyd, byddwch yn dadlau ac yn chwarae rôl yn y siambr drafod wreiddiol, Siambr Hywel.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich ymweliad gyda thaith o amgylch y Senedd, ac yna gweithgareddau yn y ganolfan addysg - Siambr Hywel.
Siambr Hywel
Bydd y disgyblion yn trafod pwnc yn y siambr drafod wreiddiol - Siambr Hywel - cyn cymryd rhan mewn gweithgaredd i greu ymgyrch berthnasol, uchel ei heffaith ar fater sy'n bwysig i'r disgyblion.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm