Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2020   |   Amser darllen munudau
Bydd y gweithgareddau hwyliog rhyngweithiol yn annog y dysgwyr i chwarae rôl Aelod o'r Senedd. Defnyddir arteffactau a deunyddiau gweledol i ennyn diddordeb yng ngwaith y Senedd.
Caiff y disgyblion eu grymuso i fynegi eu barn am faterion sydd yn bwysig iddynt.
Bydd y sesiynau canlynol yn cynnwys gwahanol weithgareddau wedi’u siapio a’u theilwra yn ôl anghenion y dysgwyr.
Byddwn yn annog cydweithio’n agos ag arweinydd y grŵp er mwyn sicrhau profiad croesawgar a chyraeddadwy i’r disgyblion. Gofynnwn yn garedig i’r arweinydd nodi unrhyw anghenion sbesiffig er mwyn sicrhau ein bod yn teilwra’r sesiwn i ateb y gofynion.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.

Ymweld â'r Senedd
Mae adeilad y Senedd ar gau ar hyn o bryd, ond mae gennym amrywiaeth o deithiau ar-lein a gweithgareddau ymgysylltu rhithwir.