
Lloyd Warburton
Enwebwyd gan Elin Jones AS, Aelod o’r Senedd ar gyfer Ceredigion.
Dyma Lloyd Warburton; disgybl 6ed dosbarth yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, a dreuliodd ei amser yn ystod y cyfnod clo yn sefydlu gwefan gyda'r gwybodaeth diweddaraf ar Covid-19, sef www.coronaviruscymru.wales
Mae'r wefan wedi chwarae rhan pwysig mewn cofnodi'r ffigyrau diweddaraf ar y feirws yng Nghymru.

Clwb Ffermwyr Ifanc Keyston
Enwebwyd gan Paul Davies AS, Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro.
Fe wnaeth y clŵb dan arweiniad Eleri George ymateb i Covid-19 drwy helpu’r gymuned 120 o weithiau. Maent hefyd wedi codi dros £2,700 i gleifion ysbyty yn Sir Benfro mewn taith gerdded noddedig yn ddiweddar.

Ffion Gwyther
Enwebwyd gan Lee Waters AS, Aelod o’r Senedd dros Lanelli.
'Gofynnwch i unrhyw un pwy yw actores orau Llanelli, a’r ateb fydd - "Ffion o Ffwrnes"'
Mae Ffion yn actores adnabyddus a phoblogaidd o Lanelli, ac mae’r fideos ohoni’n dynwared gwahanol gymeriadau o fyd teledu a ffilm wedi codi calon llawer o bobl yn ystod y cyfnod clo.

Steve Jenkins
Enwebwyd gan Lee Waters AS, Aelod o'r Senedd dros Lanelli.
Yn ystod y pandemig, mae’r artist graffiti, Steve, wedi bod yn ychwanegu sblash o liw o amgylch Llanelli. Mae Steve wedi bod yn peintio logos y GIG yn arddull superman, portreadau o enwogion a delweddau o obaith i godi calonnau pawb.

Celyn Matthews
Enwebwyd gan Lee Waters AS, Aelod o’r Senedd dros Lanelli.
Drwy dyfu blodau haul a'u gadael y tu allan er mwyn i bobl gael eu cymryd, a thrwy greu cyfnewidfa lyfrau am ddim ar wal ei gardd (gydag ychydig o help gan ei rhieni), daeth Celyn o The Little Sunflower Library â llawenydd i'w chymuned, a hynny gan godi arian ar gyfer banciau bwyd a’r Ambiwlans Awyr Cymru.

Delores Ho Sang
Enwebwyd gan gan Kirsty Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed.
“Yn siriol, yn gymwynasgar ac yn effeithlon bob tro, mae Del fel yr haul yn gwenu; mae’n wir hyrwyddwr cymunedol.”
Yn Rhaeadr Gwy, mae llawer o drigolion hŷn a bregus yn dweud efallai na fydden nhw wedi gweld pen draw Covid-19 heb Del. Mae Del wedi rhoi cefnogaeth iddyn nhw dros y ffôn, ac mae wedi helpu gyda eu siopa, a chasglu eu presgripsiynau.

Canolfan Gwirfoddolwyr Ystradgynlais
Enwebwyd gan gan Kirsty Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed.
Sefydlodd y gwirfoddolwyr hyn fanc bwyd yn Ganolfan Gwirfoddolwyr Ystradgynlais cyn pen wythnos o ddechrau’r cyfnod clo, ac ers hynny, mae eu hymroddiad a’u sgiliau trefnu wedi helpu pobl leol i ymdopi â’r cyfnod anodd hwn.

Kelvyn Jenkins
Enwebwyd gan Kirsty Williams AS, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed.
Arweiniodd Kelvyn yr ymdrech i ailagor adeilad y Lleng Brydeinig yn y Gelli fel canolfan i’r gymuned, sy’n gartref i fanc bwyd llwyddiannus ac sy’n hynod fuddiol i bobl leol, yn enwedig y bobl fwyaf bregus.
Hyrwyddwyr Cymunedol
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Arddangosfeydd yn y Senedd
Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn gyfle i weld yr enghreifftiau gorau o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Maent yn amrywio o bartneriaethau â’n prif sefydliadau cenedlaethol i brosiectau a gaiff eu datblygu ar y cyd â chymunedau Cymru.

Aelodau o'r Senedd
Gwybodaeth am eich Aelodau, sut i gysylltu â nhw, a'u rolau a chyfrifoldebau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.

Taith rithwir o amgylch y Senedd
Waeth ble ydych yn y byd, dewch i mewn i weld y Senedd ar daith rithwir.