Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:
Gyda’r Chweched Senedd wedi’i sefydlu, dyma gyfle i chi ddeall mwy am gylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Ymunwch â Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor, mewn sgwrs gydag Angharad Mair am weledigaeth y Pwyllgor o ran eu blaenoriaethau a ffyrdd o ddylanwadu ar eu rhaglen waith.