Dwy sglefren fôr wedi'u gwneud o ddeunyddiau crefft yn eistedd ochr yn ochr.

Dwy sglefren fôr wedi'u gwneud o ddeunyddiau crefft yn eistedd ochr yn ochr.

Crefftwch eich sglefrod môr eich hun wedi'u huwchgylchu

Cyhoeddwyd 04/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2024   |   Amser darllen munudau

Manylion gweithgareddau’r haf

Dyddiadau: 22 Gorffennaf – 1 Medi

Amseroedd: 9.00-16.30 – Dydd Llun - Dydd Gwener; 10.30-16.30 – penwythnosau a gwyliau banc

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

Addas ar gyfer: Oedolion a phlant 4+ oed

£ Yn rhad ac am ddim

 

Beth i'w ddisgwyl

Ymunwch â ni drwy gydol gwyliau'r haf, a rhowch gyfle i’ch creadigrwydd flodeuo! Byddwn yn gwneud sglefrod môr lliwgar, gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u huwchgylchu. Byddwn yn dewis tentaclau ac yn ychwanegu ategolion i ddod â'n sglefrod môr yn fyw. Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau ar eich cyfer.

 

Hwyl ar gyfer y teulu 

Mae'r gweithgaredd hwn yn un gwych ar gyfer unrhyw un sy’n 4 oed neu’n hŷn, ac mae'n addas ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd.

Rhowch gyfle i’ch creadigrwydd flodeuo

P'un a ydych yn grefftwr profiadol neu’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, mae'r gweithgaredd hwn yn un gwych ar gyfer pobl â sgiliau ar bob lefel. Rhoch gyfle i'ch creadigrwydd flodeuo wrth i chi ddylunio eich sglefrod môr unigryw eich hun!

 

Cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig

Beth am fynd â'ch sglefrod môr draw i Garnifal Trebiwt yn ddiweddarach yn yr haf, pan fydd gorymdaith drwy Butetown a Bae Caerdydd, a fydd yn dod i ben ar risiau’r Senedd?

Darllenwch fwy

Bydd rhagor o enghreifftiau o uwchgylchu yn cael eu harddangos mewn arddangosfa o gerfluniau rhyngweithiol gwlanog gan Ella Jones, sef 'Hooked'. 

Gallwch hefyd ddysgu am bwysigrwydd gwarchod creaduriaid y môr a'n cefnforoedd mewn arddangosfa gan Mike Perry, sef Tir/Môr, a fydd yn cael ei chynnal drwy gydol yr haf yn y Senedd a’r Pierhead.  

 

Cynlluniwch eich Ymweliad

Mae gennym ystod o weithgareddau eraill i blant, gan gynnwys man chwarae a llyfryn sydd â gweithgareddau i fforwyr.

Gallwch hefyd ymlacio yng nghaffi’r Senedd.

> Cynlluniwch eich ymweliad today.