Ymunwch â ni yn y Senedd y gaeaf hwn ar gyfer llawer o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu!
Llwybr Ceirw Bae Caerdydd
30 Tachwedd – 5 Ionawr
Helpwch Siôn Corn i ddod o hyd i’r ceirw coll a chanfod y gair gaeafol er mwyn cael cyfle i ennill diwrnod i’r teulu ym Mae Caerdydd. Cofiwch ymweld â’r Senedd i gwblhau eich chwiliad!
Gallwch weld y ceirw y tu mewn i adeilad y Senedd neu o'r ffenestr ar frig y grisiau pan fo ar gau. Edrychwch ar ein horiau agor yma.
Ewch i www.visitcardiffbay.info am fwy o fanylion, a gallwch gasglu map mewn lleoliad sy'n cymryd rhan yn y Bae.
Crefftau Cymeriadau Eira
Dyddiadau dethol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy gydol y gweithdy.
Byddwn yn dathlu lansiad Llwybr Ceirw Bae Caerdydd gyda diwrnod o grefftau ddydd Sadwrn 30 Tachwedd. Ymunwch â ni drwy gydol y dydd i addurno eich cymeriadau eira eich hun a thrugareddau gaeaf.
Darperir yr holl ddeunyddiau. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Gallwch alw heibio ar y diwrnod ei hun.
Yna, bydd crefftau Cymeriadau Eira ar gael yn y Senedd ar ddyddiadau dewisol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr:
Dyddiadau ym mis Rhagfyr |
|
Dyddiadau ym mis Ionawr |
|
Fforwyr y Senedd
Archwiliwch y Senedd gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed. Darganfyddwch fapiau Cymru, twndis, dresel Gymreig, ac oriel gyhoeddus!
Man Chwarae
Wrth ymyl y caffi, mae gan ein man ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda nhw a map mawr o Gymru i'w archwilio.
Teithiau Tywys
Ymunwch â thaith dywys i ddarganfod mwy am y Senedd – o'i phensaernïaeth a'i hanes i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!
chevron_right